Mae Darganfod Cerddoriaeth Cymru yn gartref digidol i gerddoriaeth Gymreig.
Dyma archif ddigidol er mwyn archwilio i hanes cerddoriaeth Gymreig. Mae’r adnodd yma yn canolbwyntio ar sawl cyfansoddwr, yn cynnwys Grace Williams, Joseph Parry a Morfydd Owen. Mae gan bob cyfansoddwr dudalen eu hun lle gallwch archwilio eu llawysgrifau, dysgu am eu bywydau a gwrando ar eu gweithiau. Byddwn yn ychwanegu rhagor o gyfansoddwyr i’r casgliad dros amser.
Cliciwch yma i ymweld â’r archif.
Mae Darganfod Cerddoriaeth Cymru hefyd yn gartref i siop gynhwysfawr o gerddoriaeth ddalen ddigidol sy’n arbenigo yng ngherddoriaeth o Gymru.
Cliciwch yma i archwilio trwy’r gerddoriaeth sydd ar werth.
Mae Darganfod Cerddoriaeth Cymru yn cael ei rhedeg gan Tŷ Cerdd – Canolfan Cerddoriaeth Cymru ac wedi ei greu mewn cydweithrediad â Faber Music a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.