Yn y blynyddoedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, profodd Cymru rhyw danchwa ryfeddol yn ei datblygiad cerddorol ac am y tro cyntaf erioed daeth grŵp o gyfansoddwyr Cymreig o bwysigrwydd rhyngwladol i’r amlwg. Ymhlith yr amlycaf o’r rhain oedd Alun Hoddinott. Brodor o’r Bargoed oedd Hoddinott ac fel feiolinydd yr ystyriai ei hun i ddechrau (roedd yn un o aelodau cychwynnol Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn 1946) ond roedd eisoes yn cyfansoddi’n doreithiog erbyn iddo fynd yn fyfyriwr i Adran Gerdd Prifysgol Caerdydd. Perfformiadau o’i Gonsierto Cyntaf i’r Clarinét yng Ngŵyl Cheltenham 1954 ddaeth â Hoddinott i amlygrwydd am y tro cyntaf ac yn y degawd dilynol buan iawn yr ymsefydlodd yn un o gyfansoddwyr Cymreig mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth.
Yn 1967 penodwyd Hoddinott yn Athro ac yn Bennaeth yr Adran Gerdd ym Mhrifysgol Caerdydd ac ef fu’n gyfrifol am lansio Gŵyl Cerddoriaeth yr 20fed ganrif. Eto, yn hytrach na llesteirio’i gynnydd fel cyfansoddwr, cynyddodd ei allgynnyrch, os rhywbeth. Byddai’n cyfansoddi noson ar ôl noson, hyd oriau mân y bore, ac yn raddol crynhodd bortffolio sylweddol o symffonïau, concerti, sonatâu a gweithiau ym mhob genre bron. Yn 1974 cafodd ei opera gyntaf The Beach of Falesá ei pherfformiad cyntaf gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru; aeth Hoddinott yn ei flaen wedyn i gyfansoddi pum opera arall. Perfformiwyd yr olaf o’r rhain, Tower, am y tro cyntaf yn 1999 ac mae’r gwaith yn seiliedig ar ddigwyddiadau 1994 pan lwyddodd gweithlu Pwll Glo y ‘Tower’ yng nghymoedd De Cymru i atal eu gweithle rhag cael ei gau.
Hoddinott oedd un o gyfansoddwyr mwyaf toreithiog ei genhedlaeth ac mae ganddo gannoedd o gyfansoddiadau i’w enw. Treuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd ym Mro Gŵyr gan barhau i fod yn un o gyfansoddwyr prysuraf Cymru. Clywyd Taliesin, ei waith olaf i gerddorfa, yng Ngŵyl Gerdd Abertawe yn 2009.
Concerto Hoddinott i’r Clarinét (1950), a ddarlledwyd gan y BBC o Gaerdydd yn 1951, ddaeth ag ef i’r amlwg gyntaf fel cyfansoddwr. Y perfformiad cyhoeddus cyntaf hwnnw yng Ngŵyl Gerdd Cheltenham 1954 fu’n gyfrifol am osod y cyfansoddwr ar y map rhyngwladol ac aeth yntau yn ei flaen wedi hynny i gyfansoddi Concerto i’r Obo yn 1955 a Concerto i’r Delyn yn 1957ar gyfer Osian Ellis. Yn 1960, ymddangosodd y ddau gyntaf allan o’r tri concerto a gyfansoddodd Hoddinott i’r piano. Mae ei hoffter o ffurf y concerto yn amlwg yn y disgleirdeb hoenus a ddefnyddia i amrywio’r ddau ddarn; rhwng y rhain cafwyd un cyfansoddiad yn unig, sef Chwechawd (Op.20). Dim ond offerynnau chwyth, pres a tharo sy’n cyfeilio yn y concerto cyntaf. Cyfansoddwyd y naill ddarn a’r llall ar gyfer y pianydd Valerie Tryon, arbenigwraig gyfoes, a rhoddwyd y perfformiad cyntaf o’r 2il Concerto yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, gyda’r cyfansoddwr ei hun yn arwain Cerddorfa Symffoni Llundain (yr LSO). Tri symudiad cyferbyniol: Moderato – Adagio – Allegro, sydd i’r 2il concerto hwn sy’n para am 20 munud. Mae’r gwaith i’w glywed ar recordiad Lyrita gyda Martin Jones (unawdydd) a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol (yr RPO) dan arweiniad Syr Andrew Davis. Mae’r sgrin yn dangos 5 tudalen gyntaf sgôr daclus y cyfansoddwr o’i drefniant ar gyfer dau biano, trefniant a luniwyd yn benodol ar gyfer ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 1968.
Cyfansoddwyd y gyntaf o dair sonata Hoddinott i’r cello yn 1970. Yn 1967 cafodd ei benodi yn Athro a Phennaeth Adran Gerdd Prifysgol Caerdydd (ei alma mater) lle’r oedd pumawd piano preswyl ar staff y gyfadran. Gwnaeth Hoddinott gryn dipyn i hyrwyddo proffil ehangach yr Ensemble o ran recordiadau, darllediadau, cyngherddau mewn gwyliau a pherfformiadau y tu allan i Gymru. Mae’r Sonata hon – a gyfansoddwyd ar gyfer y sielydd George Isaac a’r pianydd Eric Harrison ar gyfer ei pherfformio yn Neuadd Wigmore, Llundain ar 15fed Mai, 1970, gyda recordiad Argo (Decca) i ddilyn (sydd heb fod ar gael ar hyn o bryd nac wedi ei drosglwyddo i cd) – yn enghraifft benigamp. Mewn dau symudiad di-dor sy’n para oddeutu 15 munud, mae Andante myfyriol yn arwain ymlaen drwy cadenza digyfeiliant i Allegro molto bywiog sy’n trawsffurfio cryn dipyn o’r deunydd a glywyd eisoes. Ar y sgrin fe welir sgôr erwydd derfynol y cyfansoddwr a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 1970. Cyfansoddwyd y ddwy sonata ddilynol, y naill yn 1977 (op.96 Rhif 1) a’r llall yn 1996 (op. 159).
Roedd Hoddinott bob amser yn awyddus i ymateb i offerynwyr a chantorion ifanc dawnus ac un chwaraewr ewffoniwm ifanc, eithriadol ddawnus, y datblygodd Hoddinott berthynas agos ag ef yn ddiweddarach yn ei oes oedd David Childs. Yn 2002 aeth ati i gyfansoddi Concerto ar ei gyfer, gwaith sy’n dwyn y teitl ‘The Sunne Rising’, op.180, – cyfeiriad mwys (via John Donne) at y ffaith fod Childs yn fab i chwaraewr pres ac arweinydd arall tra adnabyddus, Robert Childs. Perfformiodd David y Concerto yn y Proms yn Llundain yn 2004 a’i recordio’n ddiweddarach i label Chandos. Ni welwyd pall o gwbl ar ddiddordeb Hoddinott yn yr offeryn pendefigaidd hwn, ac aeth yn ei flaen bron yn syth i gyfansoddi Sonata i ddilyn y Concerto, darn a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Childs, ar y cyd â’r pianydd John Wilson, yn Neuadd Wigmore ar 7fed Ebrill, 2003. Mae dau symudiad y Sonata – Andante ac Allegro – yn para oddeutu deng munud ac yn pwysleisio’n fwriadol huodledd telynegol ac ystwythder rhythmig offeryn nad yw’n cael ei gysylltu’n aml â’r naill nodwedd na’r llall. Mae’r sgrin yn dangos y llyfr erwydd terfynol a gyhoeddwyd wedyn gan Oriana Publications yn 2003.
Impromptu unawdol byr oedd y darn cyntaf gyfansoddodd Hoddinott ar gyfer y telynor disglair Osian Ellis, darn a berfformiwyd gan Ellis yng Nghlwb Cerdd Caerdydd ar Hydref 25ain, 1956; er hynny, tynnwyd y gwaith yn ôl yn ddiweddarach gan y cyfansoddwr. Cyfansoddwyd y Concerto i’r Delyn, Op.11 wedyn yn 1957, mewn ymateb i gomisiwn gan Ellis a berfformiodd y darn am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerdd Cheltenham 1958, gyda’r cyfansoddwr ei hun yn arwain Cerddorfa’r Hallé. Roedd Hoddinott wedi ymweld â Gŵyl Gerdd Cheltenham am y tro cyntaf fel myfyriwr, yn fuan wedi sefydlu’r ŵyl yn 1945 ac o 1954 ymlaen datblygodd gyswllt agos â’r digwyddiad. Comisiynwyd y Concerto Rhif 1 i’r Piano yn 1959 a Symffoni Rhif 2 yn 1962. Ymddangosodd y Sonata i’r Delyn yn 1964 ac fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf ar 12fed Gorffennaf yn Neuadd y Dref; mae’r darn cyfan oddeutu 12 munud o hyd ac yn cynnwys tri symudiad gwrthgyferbyniol. Ar y sgrin fe welir sgôr derfynol ‘daclus’ y cyfansoddwr gyda rhywfaint o nodiadau golygu o eiddo Osian Ellis ar gyfer cyhoeddi’r darn gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 1967, yn ogystal ag un dudalen sy’n cynnwys braslun o nodiant. Nid oes unrhyw recordiad o’r Sonata hon ar gael hyd yma. Suite, Op.52 (1967) a Fantasy, Op.68 No.2 (1970) ac Ail Sonata: Tempi, Op.164 (1997), a recordiwyd gan Catrin Finch ar Sain SCD2484, yw gweithiau eraill y cyfansoddwr ar gyfer y delyn.