Daniel Jones (1912-1993)

Daniel Jones yw un o’r cyfansoddwyr ôl-ryfel Cymreig, neu’n wir Brydeinig, pwysicaf. Gadawodd gorff mawr o weithiau ym mron pob maes gweithgarwch creadigol – tair symffoni ar ddeg; wyth pedwarawd llinynnol; corff mawr o gerddoriaeth siambr; cerddoriaeth achlysurol; opera (The Knife ac Orestes); sawl cantata; a choncerti – y tri mwyaf nodedig yw’r rhai ar gyfer Soddgrwth, Obo a Feiolin.

Wedi’i eni yn Abertawe, fe’i hanogwyd ar y dechrau i astudio llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe lle graddiodd gydag anrhydeddau yn y dosbarth cyntaf gan fynd rhagddo yn nes ymlaen i gwblhau ei Radd Feistr lle bu’n astudio Canu Telynegol Oes Elisabeth. Ffrind bore oes iddo oedd Dylan Thomas, a ddaeth wedyn yn fardd adnabyddus yn rhyngwladol a phortreadir eu perthynas yn lliwgar yng nghofiant Jones, My Friend Dylan Thomas (1977). Jones a gyfansoddodd y gerddoriaeth arobryn ar gyfer Under Milk Wood ac yn nes ymlaen ef fyddai’n golygu cerddi Thomas gan gynnwys sawl enghraifft o waith cynnar y bardd. Fe ddichon i’w gemau geiriau fel ffrindiau mebyd ysbrydoli gwaith y ddau.

Yn dilyn ei astudiaethau yn Abertawe, astudiodd Jones arwain cerddoriaeth yn yr Academi Gerdd Frenhinol – dyma flynyddoedd cyntaf perfformiadau proffesiynol o’i gerddoriaeth siambr gynnar yn arbennig. Yn ystod y rhyfel, bu Jones yn enwog am ei waith yn Bletchley Park fel Capten yn yr Adran Rwseg-Japaneeg (roedd yn amlieithydd dawnus). Deilliai’r diddordeb hwn mewn cymhlethdod o’i blentyndod ac fe’i harweiniodd at ffurfio cysyniad o’r hyn a alwai’n ‘fesurau cymhleth’. Ar ôl y rhyfel, dychwelodd yn y pen draw i Abertawe lle cyfansoddwyd y rhan fwyaf o’i waith aeddfed.

Roedd ei Symffoni Gyntaf yn drobwynt mewn cerddoriaeth o Gymru pan gafodd ei pherfformio yng Ngŵyl Abertawe. Fe’i dilynwyd gan ddeuddeg symffoni arall, ynghyd ag wyth Pedwarawd Llinynnol sydd, mae’n rhaid, yn un o’r cyfresi mwyaf nodedig yng ngherddoriaeth Prydain ar ôl y rhyfel (meddyliwch am y gyfres gan Elizabeth Machonchy er enghraifft). Yr egwyddor sonata-allegro symffonig Brydeinig yw sail ei allbwn, wedi’i chyplysu ag arbrofi a dyfeisgarwch rhythmig ac iaith harmonig seiliedig ar yn hytrach na mewn tonyddiaeth.

Daniel Jones Featured

Daniel Jones's manuscripts are held at the National Library of Wales. Please visit the database of their collection here.

Mae llawysgrifau Daniel Jones o fewn casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ewch i chwilio'u bas data yma.


Click image for more pages

Sonata i Dympanau Digyfeiliant

Mae system mesurau cymhleth Daniel Jones yn cael ei thanlinellu yn y Sonata i Dympanau Digyfeiliant a grëwyd yn ystod y 1940au, yn enwedig yn ystod ei amser yn Bletchley Park, ond hefyd yn ystod ei gyfnod yn astudio ac yn teithio yn Ewrop fel enillydd Ysgoloriaeth Mendelssohn mawr ei bri. Yn ystod y blynyddoedd hyn, roedd cyfansoddwyr eraill yn arbrofi â mesur ac yn eu plith, Boris Blacher ac Elliott Carter. Mae syniad Jones o ddilyn (er enghraifft) 9/8+3/4+2/4+6/8+2/4+2/8+3/8 yn rhoi i’r gerddoriaeth amwysedd nodweddiadol. Mae’r Sonata yn defnyddio rhythm fel elfen strwythurol o fewn fframwaith a milieu sonata-allegro. Fel un o weithiau cyhoeddedig cynharaf y cyfansoddwr, enillodd fri’n rhyngwladol yn gyflym iawn.


Pedwarawd Llinynnol (1957)

Eto, mae’r Pedwarawd Llinynnol (1957) yn defnyddio’r egwyddor sonata-allegro mewn disgwrs linynnol sydd wedi’i hysgrifennu’n briodweddol. Mae’r deunydd thematig yn hynod drefnedig ac mae dolenni thematig yn hollbresennol drwyddi draw. Teitlau’r pedwar symudiad yw: ‘Agitato’, ‘Lento espressivo’, ‘Allegro risoluto’, ac ‘Agitato’ terfynol. Mae’r teitlau eu hunain yn adlewyrchu’r cynnwys – byddai Jones yn defnyddio ‘espressivo’ a ‘risoluto’ yn helaeth (yn arbennig yn ei weithiau siambr) ac maent yn dal naws y gerddoriaeth yn berffaith.

Click image for more pages


Click image for more pages

The Country Beyond the Stars (1. A Hymn to Peace)

Cantata i gorws a cherddorfa yw The Country Beyond the Stars a gyfansoddwyd ar ddiwedd y 1950au gyda galluoedd adnoddau corawl cymoedd de Cymru mewn cof. Yn wir, Cymdeithas Gorawl enwog Pontarddulais a roddodd y perfformiad cyntaf gyda Cherddorfa Gymreig y BBC oedd yn cynnwys offerynwyr ychwanegol. Rhoddwyd perfformiadau eraill gan (er enghraifft) Gymdeithas Ffilharmonig Abertawe o dan Haydn James. Mae’n gosod barddoniaeth weledigaethol Henry Vaughan a hynny o fewn sylfaen cyweiraidd, gyda thelynegiaeth a bwriad dramatig yn eu tro. O’r cytgan agoriadol drwodd i’r diweddglo buddugoliaethus olaf, dyma, mae’n rhaid dweud, un o’r gweithiau mwyaf deniadol o’i fath yng ngherddoriaeth Prydain ar ôl y rhyfel.

(Y sgôr, wedi ei ddilyn gan ddau dudalen o’r braslun pensil.)


Under Milk Wood (detholiad o ddarnau)

Mae drama Dylan Thomas i leisiau, Under Milk Wood, yn enwog yn rhyngwladol fel un o weithiau gwychaf y bardd, ac fe’i hysgrifennwyd yn y blynyddoedd yn union cyn marwolaeth annhymig y bardd 9 Tachwedd 1953. Mae’r cymeriadau a glywir yn cynnwys rhai o’r mwyaf lliwgar mewn llenyddiaeth ac yn tanlinellu natur Gymreig iawn y darn unigryw hwn – yn eu plith Evans the Death, Rosie Probert, y Parchedig Eli Jenkins a Dai Bread. Yn nes ymlaen, byddai Jones yn golygu’r ddrama ar gyfer y perfformiad cyntaf ond hefyd ysgrifennodd y gerddoriaeth arobryn ar gyfer y perfformiad hwnnw ac mae’n parhau’n unigryw yn ei naturioldeb gwerinol a syml heb fyth suddo i symlrwydd. Recordiwyd y caneuon yn Ysgol Talacharn gan ategu dilysrwydd y naws.

Click image for more pages


Click image for more pages

Bagatelles ar gyfer piano

Roedd cerddoriaeth siambr yn ganolog i waith Jones. Yn ddigon rhyfedd ac yntau’n bianydd mor wych, nid ysgrifennodd fawr ddim ar gyfer yr offeryn hwnnw ar ôl cael gwared â chorff sylweddol o weithiau a gyfansoddwyd yn ei ieuenctid. Cyfansoddwyd ei set gyntaf o bagatelles rhwng 1943 a 1945 ac maent yn ymdrin ag ystod eang o emosiynau a gweadau pianyddol. Yn y llawysgrif hon, mae II-V yn cyfateb i 1-4 yn yr argraffiad cyhoeddedig. Ni chyhoeddwyd I na VI er i VI gael ei recordio gan Llŷr Williams ar y ddisg o bagatelles gan Tŷ Cerdd.

Cafodd yr ail set a gyflwynir yma’n gyflawn ei chyfansoddi rhwng 1948 a 1953. Mae’n dangos hyder cyfansoddol cynyddol a defnydd rhwyddach o anghytgord a mesurau cymhleth na’r darnau cynharach.

Cyfansoddwyd y drydedd set, yn wreiddiol dan y teitl Saith Darn i’r Piano, ym 1955 pan oedd gwaith Jones yn derbyn cydnabyddiaeth ehangach y tu allan i Gymru. O farrau agoriadol ei darn cyntaf, Allegro Bartokaidd, drwodd i naws annaearol yr ail, lle mae llif tyner tripledi lento misterioso yn cyfeilio i linell felodig amwys, i gymhlethdodau’r bedwaredd, disgleirdeb technegol y bumed, natur fyfyriol y chweched a’r seithfed drydanol, mae’r bagatelles hyn yn adlewyrchu cymeriad amlochrog y cyfansoddwr ei hun. Haeddant gael eu dynodi fel cerddoriaeth siambr wych.