Yn ei ddydd, Daniel Protheroe oedd un o gerddorion pwysicaf a mwyaf poblogaidd Cymru a weithiai yn America yn ogystal â Chymru.
Wedi’i eni a’i fagu yn Ystradgynlais yng Nghwm Tawe, daeth yn arweinydd cydnabyddedig ym maes cerddoriaeth Gymreig yn yr Unol Daleithiau yn ogystal â chyfrannwr mawr i gerddora yng Nghymru. Yn gyfansoddwr toreithiog, cofnodwyd dros fil o hawlfreiniau gweithiau o genres cymysg iddo yn Llyfrgell y Gyngres heb sôn am y gweithiau a gyhoeddwyd yng Nghymru, megis y rhai ar gyfer corau meibion, emynau a chaneuon plant. Mae’r rhan fwyaf o’i weithiau cyhoeddedig yn archifau Llyfrgell y Gyngres yn Washington DC gyda rhai o’i bapurau personol a llawysgrifau yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Yn 19 oed, ymfudodd Daniel Protheroe o’r Ystrad gan ymgartrefu yn Scranton, Pensylfania, canolbwynt yr America Gymreig yr adeg honno. Yn wahanol i lawer o’r rheini a aeth i Scranton, nid mynd yn löwr, gweithiwr haearn na labrwr ddaru Protheroe, ond aeth ati’n syth i gychwyn gyrfa lwyddiannus fel cerddor rhyngwladol – fel arweinydd, addysgwr, beirniad, canwr, awdur ac yn bwysicaf oll, fel cyfansoddwr.
Ymhlith athrawon cynnar Daniel Protheroe yng Nghymru roedd Philip Thomas, JT Rees, Dr Joseph Parry, Dyfed Lewis, y Parchedig William Fairhurst a’r Parchedig G Emery, ac yn America, JW Parson Price, Dudley Buck a Hugo Kahn. Ym 1893 enillodd ei Mus.Bac. (Toronto) ac ym 1903 ei Ddoethuriaeth mewn Cerdd o Brifysgol Efrog Newydd. Derbyniodd ddinasyddiaeth Americanaidd ym 1893. Dyfarnwyd doethuriaethau er anrhydedd iddo gan Brifysgol Toronto, Coleg Coe, Iowa a Phrifysgol Cymru.
Mae bywyd a gweithiau Daniel Protheroe yn syrthio i bedwar cyfnod: Ystradgynlais (-1886), Scranton, Pensylfania (1886-94), Milwaukee, Wisconsin (1894-1908) a Chicago, Illinois (1908-1934).
Tra oedd yn Scranton, sefydlodd ac arwain Cymdeithas Gorawl y Cymrodorion gyda thros 250 o gantorion corawl Cymreig. Enillodd y côr yr ail wobr yn Eisteddfod Ryngwladol Ffair y Byd, Chicago ym 1893 a Daniel Protheroe oedd y person cyntaf yn Scranton i lwyfannu ac arwain oratorio (Gwledd Alecsander gan Handel) gyda cherddorfa. Yn Scranton hefyd y cwrddodd a phriodi â’i wraig Hannah Harris.
Ac yntau’n eisteddfodwr profiadol, yn saith oed enillodd Daniel Protheroe yr unawd alto (Abertawe) ac yn 18 oed arweiniodd Gôr Ystradgynlais yn y Genedlaethol yn Llandeilo. Yn ystod y blynyddoedd rhwng 1900 a 1933, croesodd yr Iwerydd naw o weithiau i feirniadu mewn Eisteddfodau Cenedlaethol ac arweiniodd gôr yr Ŵyl pan fu’r Genedlaethol yn Harlech ym 1933. Yn yr Unol Daleithiau, bu’n beirniadu pob un o bum Eisteddfod Genedlaethol America, Eisteddfod Ryngwladol Pittsburgh a llawer o eisteddfodau rhanbarthol ar draws y wlad.
Bu galw mawr am Protheroe ar draws y cyfandir fel arweinydd Cymanfaoedd Canu (byddai llawer o’r rhain yn aml yn cynnwys cynulleidfaoedd o filoedd – yn Scranton ym 1926, bu rhagor na 6,000 o gantorion yn Arfdy’r ddinas) ac yn eu plith Cymanfaoedd Canu Eisteddfodau Cenedlaethol America.
Addysgwr: Roedd yn aelod cyfadran o adran leisiol Ysgol Gerdd Sherwood ac yn Gyfarwyddwr adran gerdd Ysgol Hyfforddi Chicago, sefydliad Methodistaidd ar gyfer hyfforddi cenhadon a gweithwyr eglwys.
Addysgeg: Ef oedd awdur y Cwrs Harmoni a Chwrs Arwain Corawl i ddiwallu anghenion nifer cynyddol y corau yn yr Unol Daleithiau.
Er ei fod yn byw y tu allan i Gymru am y rhan fwyaf o’i oes, arddelodd Daniel Protheroe ei iaith gyntaf gydag angerdd ac fe’i canmolid yn aml am ei allu i ysgrifennu a thraddodi beirniadaethau o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol mewn Cymraeg glân gloyw.
Erbyn heddiw, fe ddichon ei fod yn cael ei gofio’n bennaf am ei emynau. Yn deithiwr cyson, enwir llawer o’i emynau mwyaf poblogaidd ar ôl lleoedd, megis Milwaukee, Wilkesbarre a Cwmgïedd ac ar rai eraill ceir enwau fel Price, Hiraeth a Hannah. Llyfr emynau dwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg yw ‘Cân a Mawl’ a olygwyd ganddo i Eglwys Methodistiaid Calfinaidd America.
Bu farw Daniel Protheroe yn 1934 ac mae yntau a’i wraig, Hannah, wedi’u claddu yn Scranton, Pensylfania. Ar adeg ei farwolaeth, cynhaliwyd gwasanaethau a chyngherddau coffa arbennig ar draws cymunedau Cymreig America. Yng Nghymanfa Ganu’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghastell-nedd y flwyddyn honno, canwyd ei emyn-dôn Price er cof amdano.
Diolch i Mari Morgan am gyfrannu at y dudalen hon.
Daniel Protheroe's manuscripts are held at the National Library of Wales. Please visit the database of their collection here.
Mae llawysgrifau Daniel Protheroe o fewn casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ewch i chwilio'u bas data yma.
NEW AWARD: ‘Dr. Daniel Protheroe Award for Hymn Writing’ to launch at the North American Festival of Wales, 2019.
The North American Festival of Wales (NAFOW) launches a new award in honour of Daniel Protheroe. The first of an annual award to be given for the writing of a new hymn-tune and words. A panel of distinguished writers and musicians will adjudicate the competition and entries to be submitted under a nom-de-plume. The winners will be announced during the afternoon session of the NAFOW 2019 Cymanfa Ganu in Milwaukee, WI. The winning hymn will be performed by the Festival Chorus for all to hear and enjoy.
GWOBR NEWYDD: ‘Gwobr Dr Daniel Protheroe am Ysgrifennu Emyn’ i lansio yn yr Ŵyl Cymru Gogledd America, 2019.
Mae Gŵyl Cymru Gogledd America, 2019 (The North American Festival of Wales - NAFOW) yn lansio gwobr newydd er mwyn dathlu Daniel Protheroe. Y cyntaf o wobr flynyddol i’w roi am ysgrifennu emyn-dôn a geiriau newydd. Bydd panel o sgrifennwyr a chyfansoddwyr nodedig yn barnu’r gystadleuaeth a bydd yr ymgeision o dan ffugenw. Bydd yr enillwyr yn cael ei cyhoeddi yn sesiwn prynhawn y Cymanfa Ganu NAFOW 2019 yn Milwaukee, WI. The winners will be announced during the afternoon session of the NAFOW 2019 Cymanfa Ganu yn Milwaukee, WI. Bydd Corws yr Ŵyl yn perfformio’r emyn llwyddiannus er mwyn i bawb glywed a mwynhau.
Ym Milwaukee ac ar draws Wisconsin bu’n arwain corau niferus gan gynnwys Côr Eglwys Gyntaf y Bedyddwyr, Côr Cristnogol yr Undeb, Cymdeithas Orffews Racine a Chlwb Glee Sheboygan ac ef oedd cyfarwyddwr Clwb Cerdd Arion.
Daeth llwyddiant ar ben llwyddiant a bu Chicago yn galw ym 1903 pan benodwyd Daniel Protheroe yn Gyfarwyddwr Cerdd yr enwog Eglwys Ganolog ar Rodfa Michigan, gyda’i thîm o weinidogion carismataidd, rôl y byddai’n parhau ynddi hyd at ei farwolaeth. Ar gyfer y gwasanaeth Nadolig yn yr Eglwys Ganolog y cyfansoddai ei garol flynyddol a fyddai wedyn yn sail i’w gerdyn Nadolig chwedlonol gyda’i waith celf gwreiddiol. Anfonid y rhain at ei ffrindiau a’i deulu ar draws yr Unol Daleithiau a gartref yng Nghymru.
Daw’r enghreifftiau hyn o Archif Tŷ Cerdd a ddelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Yn ystod ei gyfnod yn Chicago, bu hefyd yn arwain corau niferus, gan gynnwys Corws Meibion a Chorws Merched Bell Telephone Illinois, Cymdeithas Gorawl y Daily News, Clwb Glee Sherwood , Corws Ysgol Hyfforddi Chicago a Chorws Plant Chicago. Ym 1926 sefydlodd Gôr Meibion Cymreig Chicago a chyflwyno cyngherddau yn Neuadd Gerddorfa eiconig y ddinas gan ddarlledu’n fyw yn rheolaidd ar draws y wlad yn ystod dyddiau cynnar y gwasanaeth radio.
Y llawysgrif sydd ar ddangos yma yw Ar Lan Iorddonen – gosodiad o eiriau gan Ieuan Glan Geirionydd i gôr meibion.
Cyfansoddwr Cymreig-Americanaidd toreithiog oedd Daniel Protheroe, er nad yw llawer o’i weithiau wedi goroesi dros amser, efallai oherwydd na chawsant eu cyhoeddi yng Nghymru. O blith y rhai sy’n hysbys mae cytganau corau meibion The Crusaders, Nidaros, Castilla a’i drefniant Laudamus (Bryn Calfaria gan William Owen) yn gonglfeini’r repertoire. I leisiau merched ceir ei drefniannau o ganeuon gwerin Cymreig a harddwch syml y gân ddwyran gyda geiriau Salm 46 (adnodau 4 a 5) Y Mae Afon. Mae’r cantata Saint Peter, The Garden and the Sepulchre, y gerdd symffonig In the Cambrian Hills, y Pedwarawd yn A fwyaf a’r unawd i’r feiolín A Welsh Romance i gyd yn werth eu nodi.
Mae’r oriel ar y dudalen yma’n dangos dechrau gwaith dideitl ar gyfer cerddorfa linynnol yn ogystal â’r brasluniau cynnar ar gyfer gwaith corawl, Y Tymhorau.