Ganed David de Lloyd yn Sgiwen ar 30 Ebrill 1883, ond fe’i maged ym Mhenparcau, Aberystwyth. Amlygodd ddawn gerddorol yn ifanc iawn, gan ddatblygu medrusrwydd arbennig yn nodiant y tonic sol-ffa. Aeth John Spencer Curwen, pennaeth y Coleg Tonic Sol-ffa, â’r bachgen ifanc ar daith ddarlithio er mwyn arddangos posibiliadau’r nodiant hwnnw. Enillodd de Lloyd ysgoloriaeth o ysgol Ardwyn i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddio mewn hanes yn 1903. Yna yn 1905 ef oedd y myfyriwr cyntaf i ennill gradd BMus Prifysgol Cymru, a chasglwyd arian yn lleol iddo allu parhau â’i astudiaethau yn Leipzig yn 1906–07.
Cafodd gyfnodau yn athro ysgol yn Woolwich ac yn Llanelli. Yn ystod ei flynyddoedd yn Llanelli gweithredodd fel golygydd cerdd y casgliad o emynau thonau, Cân a Moliant (1916), a baratowyd gan H. Haydn Jones, Aelod Seneddol Meirionnydd. Mae’r casgliad yn cynnwys emyn-donau gan nifer o gyfansoddwyr Cymreig y cyfnod, gan gynnwys chwech gan Morfydd Llwyn Owen a 37 tôn wreiddiol gan de Lloyd ei hun. Dair blynedd yn ddiweddarach, yn 1919, fe’i penodwyd yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth yn ei hen goleg yn Aberystwyth, yr un adeg ag y penodwyd Walford Davies yn Athro. Ysgwyddai de Lloyd lawer o faich dysgu a gweinyddiaeth yr Adran Gerdd, gan fod cymaint o alwadau ar amser Walford Davies, ac yn 1926 fe’i penodwyd yn Athro yn olynydd i Davies. Yr oedd de Lloyd yn athro trylwyr a enillodd barch genedlaethau o fyfyrwyr.
Er nad yw ei waith fel cyfansoddwr yn adnabyddus bellach, fe luniodd nifer o weithiau diddorol ac atyniadol. Cyflwynwyd ei anthem estynedig, Tu draw i’r llen (1924), gosodiad o eiriau’r bardd o’r ail ganrif ar bymtheg, Henry Vaughan, i goffadwriaeth Prifathro’r Coleg, T. F. Roberts, a fuasai farw yn 1919. Perfformiwyd ei opera, Gwenllian, i libreto gan T. Gwynn Jones a Thomas Williams (Eurwedd) sy’n adrodd stori Gymreig o gyfnod y Croesgadau, yn y Coliseum, Aberystwyth, yn Chwefror 1924. Mae ei opera ddiweddarach, Tir na n-Og (1930), eto i libreto gan T. Gwynn Jones, yn dangos dylanwad pendant Debussy. Perfformiwyd ei gantawd i leisiau plant, Dydd a Nos (1927), sy’n gosod geiriau o waith awmryw awduron, yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1952. Ymdrechai yn ei waith i ymdrin â themâu Cymreig a Cheltaidd, a threfnodd nifer o ganeuon traddodiadol, yn eu plith y casgliad Forty Welsh Traditional Tunes (1929). Golygodd hefyd gyfrolau o ganeuon Brahms a Schubert gyda geiriau Cymraeg gan T. H. Parry-Williams.
Bu David de Lloyd farw yn Aberystwyth ar 20 Awst 1948.
Rydyn ni'n ddiolchgar i Dr Rhidian Griffiths am ysgrifennu amdano David de Lloyd ar gyfer y wefan yma. / We are thankful to Dr Rhidian Griffiths for writing about David de Lloyd for this website.
David de Lloyd's manuscripts are held at the National Library of Wales. Please visit the database of their collection here.
Mae llawysgrifau David de Lloyd o fewn casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ewch i chwilio'u bas data yma.
Er bod traddodiad hir ac anrhydeddus mewn barddoniaeth Gymraeg o ddefnyddio’r mesurau caeth (y gynghanedd), cyndyn fu cyfansoddwyr Cymru i fentro gosod ar gân farddoniaeth mewn cynghanedd, oherwydd cymhlethdodau a gofynion penodol y cyfrwng. Teimlai David de Lloyd fel ei gyfoeswr hŷn, David Vaughan Thomas (1873–1934), fod creu gosodiadau cerddorol o gerddi cynganeddol yn allwedd i arddull genedlaethol Gymreig mewn cerddoriaeth, ac arbrofodd yn arbennig trwy osodiadau o englynion, megis Englynion ar gân (1932), sef chwech o englynion gan T. Gwynn Jones, Dafydd Ddu Eryri a Robert ap Gwilym Ddu; Moes gusan (1935), gosodiad o englynion o awduraeth anadnabyddus; a Llys Ifor Hael (1943), gosodiad deulais o englynion cyfarwydd Ieuan Brydydd Hir sy’n disgrifio adfeilion llys tywysog. Gall fod de Lloyd yn gweld ymdrechion fel hyn yn fodd i adnewyddu’r hen gyswllt rhwng cerdd dafod a cherdd dant, hynny yw y cyswllt agos a fu yn yr Oesoedd Canol rhwng barddoniaeth a cherddoriaeth.
Creadigaeth y gweinidog a’r athro o Lundain, John Curwen, oedd cyfundrefn y Tonic Sol-ffa yn ei ffurf ddatblygedig, ond cafodd ddylanwad trymach ar Gymru nag ar unman arall bron. Diolch i sêl genhadol Eleazar Roberts (1825–1912) ac Ieuan Gwyllt (1822–77), cyflwynwyd y nodiant newydd i Gymru o tua 1861 ymlaen, ac fe sefydlwyd dosbarthiadau canu ym mhob rhan o’r wlad. Daeth sol-ffa yn eithriadol o boblogaidd o fewn cyfnod byr, ac roedd y poblogrwydd hwn yn cyd-fynd â datblygiad canu corawl a chynulleidfaol. Erbyn 1900 byddai argraffiadau sol-ffa o ddarnau corawl ac o lyfrau emynau yn gwerthu’n llawer gwell yng Nghymru na’r argraffiadau cyfatebol yn y nodiant erwydd.
Fel llawer o’i gyfoedion, meistrolodd y David de Lloyd ifanc elfennau’r sol-ffa mewn dosbarthiadau cysylltiedig â’r capeli, lle y gwnaethwpyd defnydd helaeth o’r gyfundrefn. Aeth John Spencer Curwen ag ef ar daith ddarlithio i ddangos potensial y nodiant newydd nid yn unig fel cyfrwng i ganu, ond i gerddoriaeth offerynnol hefyd. Cadwodd de Lloyd ei ddiddordeb yn y sol-ffa, a chofiai ei fyfyrwyr yn y coleg fel y byddai’n aml yn dewis cyfeilio o‘r sol-ffa yn hytrach na’r nodiant erwydd.