David Vaughan Thomas (1873-1934)

David Vaughan Thomas yw un o’r cyfansoddwyr pwysicaf yng nghyfnod trawsnewidiol cerddoriaeth Gymreig o’r cyfnod Fictoraidd i’n hamserau ni. Unigolyn hynod ddawnus oedd o mewn sawl maes, yn fwyaf nodedig mewn mathemateg, sef ei radd gyntaf yn Rhydychen a thra oedd yn astudio yn y fan honno y daeth ei ddoniau fel pianydd i’r fei. Ar ôl cyfnodau’n addysgu yng Ngholeg y Gwasanaethau Unedig ac Ysgol Harrow, yn y pen draw ymgartrefodd yn ôl yn Abertawe lle mwynhaodd yrfa lawrydd. Cafodd BMus o Rydychen ym 1906 a’r DMus ychydig yn ddiweddarach ym 1911.

Datganwyd mai’r ‘bennod gyntaf yng nghydnabyddiaeth Lloegr o gerddoriaeth Gymreig’ oedd perfformiad cyntaf The Bard yn Llundain ym 1912 a dilynodd gyfansoddi gweithiau eraill ar raddfa fawr megis Llyn y Fan a’r Song for St. Cecilia’s Day. Mae’r gweithiau hyn yn dangos byd-olwg Ewropeaidd allblyg cyfansoddwr oedd yn prysur cael ei draed dano ar adeg gyffrous yn hanes cerddoriaeth. Cause célèbre ym myd cerddoriaeth Cymru am dipyn o amser oedd ei fethiant i sicrhau Cadair a Chyfarwyddiaeth Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru. Penodwyd Syr Walford Davies (a rhoi iddo ei deitl diweddarach) a’i gymeradwyo gan echel Gregynog-Stryd Downing a oedd wedi pwyso i’r swydd fynd i Davies. Daeth Thomas yn arholwr cartref a thramor ac ar daith yn Ne Affrica y bu farw ym mis Medi 1934.

Coleddai allbwn cerddorol Thomas sawl genre a gellid disgrifio ei ddatblygiad fel rhyw fath o ‘symudiad ymlaen i’r gorffennol’. O’r cyffyrddiadau Oes Fictoria yn ei ganeuon cynnar, lliwiwyd ei gerddoriaeth gan sawl nodwedd o orffennol Cymru fel a welir yn ei osodiadau o gynghanedd yn Saith o Ganeuon gan Dafydd ap Gwilym ac eraill – saith cân a gyfansoddwyd ym 1922 lle gosododd fesurau cymhleth cynnar gyda chryn effaith.

Gadawodd gyfanswm o ryw ddeugain o ganeuon gan gynnwys y fawreddog Berwyn gyda gwead hardd ei llinell felodig, dwy ar bymtheg o ran-ganeuon, anthemau, emyn-donau, cerddoriaeth siambr, trefniannau o ganeuon gwerin a thri gwaith cerddorfaol corawl ar raddfa fawr y sonnir amdanynt uchod.

David Vaughan Thomas hi res

David Vaughan Thomas's manuscripts are held at the National Library of Wales. Please visit the database of their collection here.

Mae llawysgrifau David Vaughan Thomas o fewn casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ewch i chwilio'u bas data yma.


Click image for more pages

The Bard (1910)

Gwaith ar raddfa fawr yw The Bard i gorws, bariton a cherddorfa ac mae’n defnyddio iaith gerddorol sydd ymhell ar y blaen o’i gymharu ag unrhyw beth a gyfansoddwyd gan gyfansoddwr o Gymru cyn hynny. Mae ei strwythur yn dynn a’r rhethreg gerddorol yn agos i’r farddoniaeth gyda newidiadau cywair rhythmig sy’n adlewyrchu’r testun mewn harmonïau sydd yn aml yn bigog.


Barddoniaeth yn ei gerddoriaeth (1914/1926)

Mae gweithiau eraill yn adlewyrchu ei ymagwedd soffistigedig a’i chwaeth mewn barddoniaeth. Mae’r beirdd canoloesol yn cael eu gosod yn O Fair Wen a Berwyn (1926) gyda’r Hafaidd Nos (1914) a Caledfwlch (mae drafft o’r darn hwn i’w weld yn y rhan nesaf) yn adlewyrchu ei ymwybyddiaeth o farddoniaeth fwy cyfoes gan Afalon a T. Gwynn Jones.

 

 

Click image for more pages


Click image for more pages

Drafftiau ar gyfer cyhoeddi gyda nodiadau’r cyfansoddwr (1923/1931)

Mae Enter these Enchanted Woods yn gosod barddoniaeth gan Meredith ac mae’r iaith harmonig yn frathog ac yn ysgogol am yn ail gan adlewyrchu’r teimladrwydd barddonol yn effeithiol.

Mae Caledfwlch (fel y nodir uchod) yn adlewyrchu ei ymwybyddiaeth o farddoniaeth cyfoes gan T. Gwynn Jones.


Pumawd Llinynnol (1930)

Heb os, y Pumawd Llinynnol yw un o’r gweithiau mwyaf caboledig o’i fath gan gyfansoddwr Cymreig cyn 1930. Yma, mae’r bwriad tonaidd telynegol yn cael ei dymheru gan newid harmonig soffistigedig sydd yn aml yn gynnil ac mae’n dangos gwir ymdeimlad â’r cyfrwng.

Click image for more pages