Ble bynnag y caiff caneuon Cymraeg eu perfformio, mae’n bur debyg y bydd caneuon Dilys Elwyn-Edwards yn eu plith. Pan fu farw ym mis Ionawr 2012, roedd hi wedi ennill bri fel un o gyfansoddwyr enwocaf ei chyfnod ac uchaf ei pharch ym myd y gân Gymraeg. Treuliodd y rhan fwyaf o’i hoes yng Nghaernarfon, ar lannau’r Fenai, ac yno cynhyrchodd gasgliad bychan o gyfansoddiadau, ond cyfansoddiadau cain serch hynny, a’r cyfan ohonynt bron ym myd y gân, ac mae nifer o’r rheiny bellach wedi dod yn glasuron yn repertoire y gân Gymraeg.
Bu Dilys Elwyn-Edwards yn ddisgybl yn Ysgol Dr Williams i Ferched, Dolgellau cyn mynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru a Sir Fynwy (Prifysgol Caerdydd yn ddiweddarach). Yno daeth ar draws nifer o’r cyfansoddwyr y byddai eu cynnyrch cerddorol yn dod maes o law yn sail i’w harddull unigolyddol hi: Vaughan Williams, Delius, Warlock, Moeran ac, yn hanfodol felly, Herbert Howells, fu’n ei hyfforddi pan aeth yn fyfyrwraig i’r Coleg Cerdd Brenhinol wedi’r Ail Ryfel Byd. Heblaw am gyfnod byr yn Rhydychen, lle’r oedd ei gŵr, Elwyn Edwards, yn ordinand gyda’r Presbyteriaid yng Ngholeg Mansfield, treuliodd weddill ei hoes yng Nghaernarfon lle bu’n gweithio fel tiwtor piano ym Mhrifysgol Bangor.
Mae cryn dipyn o’i chyfansoddiadau yn dyddio o’r 1950au a’r cyfnod wedi hynny pan ddaeth o hyd i’w llais cynhenid fel miniaturwraig ar lun y gân gelfydd. Tuedda ei chaneuon diweddaraf i ganolbwyntio ar farddoniaeth Gymraeg gan roi bod i rai o glasuron y genre hwnnw mewn caneuon megis Caneuon y Tri Aderyn 1962. Wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaen, aeth ati hefyd i gyfansoddi gweithiau corawl a gwelwyd ei chaneuon yn cael eu mabwysiadu gan genhedlaeth newydd o gantorion Cymraeg fel Bryn Terfel, Rebecca Evans, Jeremy Huw Williams, Helen Field a Shân Cothi. Daeth ei chreadigrwydd i ddiweddglo naturiol ar farwolaeth ei gŵr yn 2005 ond ymddengys bod y caneuon eu hunain, os rhywbeth, yn cynyddu mewn poblogrwydd ymhlith cantorion o’r naill flwyddyn i’r llall.
CD newydd wedi’i recordio gan soprano, Elin Manahan Thomas a phianydd, Jocelyn Freeman ar gael o Recordiau Tŷ Cerdd:
(i) Y Gylfinir
(ii) Y Tylluanod
(iii) Mae Hiraeth yn y Mor
Comisiynwyd y casgliad hwn o dair cân gan y BBC yng Nghymru yn gynnar yn yr 1960au. Erbyn hynny roedd y gyfansoddwraig wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon ac yn gweithio fel athrawes yn yr ysgol ramadeg leol. Roedd ei gŵr, David Elwyn Edwards, yn weinidog ar Eglwys Bresbyteraidd Y Maes (Castle Square) yn y dref a thrwy gydol bywyd creadigol Dilys bu Elwyn yn rhoi cyngor manwl iddi ar ddewis testun ar gyfer ei chyfansoddiadau. Ar gyfer y cylch hwn o ganeuon, penderfynwyd ar gerddi R. Williams Parry ac fe ddaeth y ddwy gân gyntaf i fod yn gymharol ddidrafferth. Eu cyfaill, y dramodydd Dr John Gwilym Jones, bwysodd ar Dilys i osod y soned enwog ‘Mae Hiraeth yn y Môr’ i gerddoriaeth, ond roedd hi’n gyndyn i wneud hynny ar y cychwyn, am yr union reswm mai soned oedd y gerdd. Hyd yn oed ar ôl cwblhau’r gwaith, teimlai’n ansicr – ond roedd hi’n benderfynol serch hynny y byddai’r gân yn agor gyda brawddeg oedd yn arwain i fyny at A-feddalnod uchel! Roedd y BBC yn amheus iawn o hyn ar y dechrau, felly ffoniodd y gyfansoddwraig ei ffrind William Mathias, oedd yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor nid nepell i ffwrdd. Heb ymdroi, awgrymodd yntau’r tenor Kenneth Bowen: “Mae gan Ken A feddalnod uchaf ardderchog”, meddai – ac felly aethpwyd ymlaen yn ddigyfnewid gydag un o’r agoriadau mwyaf cofiadwy i unrhyw gân Gymraeg. Enillodd y gân ei lle yn fuan iawn fel ffefryn mewn cyngherddau a chystadlaethau ar gyfer lleisiau tenor a soprano fel ei gilydd, a bellach mae hon yn un o glasuron y repertoire.
Prynwch y sgôr o Gwynn:
(i) A Piper
(ii) The Night
(iii) Two Pewits
Er bod llawer o’i chaneuon a’i gweithiau corawl wedi’u cyhoeddi yn ystod ei bywyd, cadwodd Dilys Elwyn-Edwards stoc go sylweddol o gerddoriaeth dan gêl. Roedd rhesymau amrywiol dros hyn -byddai’n anhapus weithiau gyda’r perfformiadau a roddwyd o rai o’r cyfansoddiadau ac o’r herwydd roedd yn gyndyn i’w rhyddhau heb fynd ati i ddiwygio neu i ailysgrifennu. Mae’n bosib mai ar gyfer cyfuniadau offerynnol llai gwerthadwy y lluniwyd cyfansoddiadau eraill ac roedd y cyhoeddwyr eu hunain felly yn amharod i’w derbyn. Yn yr achos hwn, mae’r tair cân i soprano, clarinét a phiano yn perthyn i’r categori olaf hyn. Yn ystod ei blynyddoedd gyda Herbert Howells yn y Coleg Cerdd Brenhinol, bu Dilys yn gosod llawer o gerddi Saesneg, a hynny gyda chryn ddirnadaeth a hyblygrwydd naturiol; mae hi i’w gweld ar ei gorau yn y tair enghraifft dan sylw.
Comisiynwyd a pherfformiwyd yn wreiddiol yn 1978 gan Academi St Teilo (Mair Cooper – Soprano; Alun Cooper – Clarinét; Gerald Jones – Piano). Gallwch wrando isod i berfformiad o lansiad Darganfod Cerddoriaeth Cymru (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth o Ragfyr 2015) gan soprano Meinir Wyn Roberts, clarinetydd Carwyn Thomas, a phianydd Sioned Evans.
Y Glomen
Y Deryn Du
Dau drefniant o blith nifer o drefniannau o alawon gwerin na chawsant eu cyhoeddi yw ‘Y Glomen’ a ‘Y Deryn Du’ ac mae’r caneuon hyn yn dwyn i gof y ffaith bod gan Dilys ei hun lais canu dymunol. Byddai’n aml yn creu brasluniau o gyfeiliannau, er difyrrwch iddi hi ei hun yn ogystal ag ar gyfer cyngherddau a darllediadau, pan fyddai hi ei hun yn aml yn ymddangos fel cyfeilyddes benigamp i’r cantorion.
(i) When Music Sounds
(ii) Epitaph
Walter de la Mare, yn ddi-os, oedd un o hoff feirdd Dilys Elwyn-Edwards – serch a daniwyd gan ei hoffter cychwynnol o gân ddigyffelyb Herbert Howells, King David, a threfniannau eraill o’i gerddi allan o’r gyfrol Peacock Pie. Yn ystod ei chyfnod yn astudio gyda Howells ym mlynyddoedd cynnar yr 1950au, byddai Howells yn aml yn ei hannog i osod cerddi gan rai o’i hoff awduron ef ei hun; un enghraifft nodedig o hyn oedd y rhan-gân hyfryd, All that’s Past, a gyhoeddwyd wedi hynny gan Novello a’i chynnwys fel atodiad yn y Musical Times. Ar ôl dychwelyd i Gymru ym mlynyddoedd olaf yr 1950au, roedd yn anorfod, yn ôl pob tebyg, mai gosod cerddi Cymraeg (yn hytrach na rhai Saesneg) wnâi Dilys, oherwydd arferai ymateb yn hynod naturiol i geisiadau neu gomisiynau am gerddoriaeth, a heb ysgogiad o’r fath cymharol brin yw’r hyn a gyfansoddwyd ganddi. Felly, yn 2001, pan dderbyniodd gomisiwn i gyfansoddi rhai caneuon ar gyfer Gŵyl Cricieth, i’w canu gan y soprano Rosamund Shelley, trodd Dilys, yn gwbl nodweddiadol, at de la Mare am y ddwy gân gaboledig a myfyriol hyn. Yn dilyn ei marwolaeth serch hynny, profiad dadlennol i fi – fel ei hysgutor cerddorol – oedd darganfod ei bod mewn gwirionedd wedi gosod An Epitaph nifer o flynyddoedd cyn hynny, heb fod ganddi unrhyw berfformiad mewn golwg, ond yn unig ar gyfer ei difyrrwch personol. Adeg y cyngerdd yng Nghricieth, ni soniodd ddim am hyn ac roedd yn brofiad teimladwy i ganfod – wrth edrych yn ôl – bod y gosodiad diweddarach yn amlwg wahanol o ran tôn. Myfyrdod ar ddiflaniad amser a phyliad harddwch, rywsut, oedd y gân berffaith fyddai’n gweithredu’n ddiarwybod fel cân ffarwel ynddi’i hun.
Prynwch y sgôr o Gwynn: