Grace Williams oedd un o gyfansoddwyr proffesiynol cyntaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif i ennill bri cenedlaethol arwyddocaol, ac mae llawer o’i darnau hynod arbennig wedi eu hysbrydoli’n uniongyrchol gan Gymru a’i diwylliant.
Ganed Williams yn Y Barri, Sir Forgannwg, a bu’n fyfyrwraig yn yr adran Gerdd ym Mhrifysgol Caerdydd (1923–1926) cyn mynd ymlaen yn ddiweddarach i astudio cyfansoddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol (1926–30) dan gyfarwyddyd Ralph Vaughan Williams ac yna yn Fienna (1930–31) gydag Egon Wellesz. Roedd wrth ei bodd yn cyfansoddi’n benodol ar gyfer y gerddorfa, ac mae ei dawn yn y cyfrwng hwn i’w gweld yn amlwg yn ei hagorawd gynnar Hen Walia (1930) a’r Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940). Dilynwyd ei Fantasia boblogaidd gan Sinfonia Concertante ar gyfer piano a cherddorfa (1941), a’i Symffoni Gyntaf ddramatig (1943), gwaith a ysbrydolwyd gan hanes Owain Glyndŵr, rebel o Gymro o’r bymthegfed ganrif. Arfordir Sir Forgannwg oedd yn annwyl iawn ganddi fu’n ysbrydoliaeth i’w chyfansoddiad meistrolgar Sea Sketches (1944) i gerddorfa linynnol.
Bu Williams yn gweithio fel cyfansoddwraig ac athrawes gerdd lwyddiannus yn Llundain am nifer o flynyddoedd ond dychwelodd i fyw a gweithio yn Y Barri yn 1947. Yn sgil y dychwelyd adref hwn gwelwyd cychwyn ar gyfnod newydd a hanfodol yn ei datblygiad creadigol. Mae ei Penillion i gerddorfa (1955), er enghraifft, yn addasiad cerddorfaol hynod wreiddiol o nodweddion mydryddol a melodig canu penillion traddodiadol, sef Cerdd Dant y Cymry. Bu ei geirfa gerddorol estynedig yn symbyliad i weithiau eraill o bwys i gerddorfa ac yn eu plith Symffoni rymus Rhif 2 (1956), y Trumpet Concerto (1963) a Ballads i gerddorfa (1968).
Yn ystod ei blynyddoedd olaf, dechreuodd Williams ddangos mwy o ddiddordeb mewn cyfansoddi rhagor o gerddoriaeth gorawl a lleisiol. Mae ei chyfres gorawl The Dancers (1951) yn enghraifft ddisglair o’i medrusrwydd wrth ymdrin â’r cyfrwng corawl ac felly hefyd ei Ave Maris Stella (1973) cywrain ar gyfer corws cymysg. Perthyn nifer o’i gweithiau sylweddol gorau ar gyfer lleisiau i’r cyfnod hwn hefyd ac yn eu plith yr opera gomig wych The Parlour (1966), y Missa Cambrensis i unawdwyr, corws a cherddorfa (1971) a’r aria gywrain Fairest of Stars (1973) i soprano a cherddorfa.
Comisiynwyd y trefniant eithriadol hwn i gôr cymysg gan Ŵyl Gerdd Gogledd Cymru yn 1973. Ave Maris Stella yw un o emynau Lladin enwocaf yr Oesoedd Canol – emyn sy’n moli’r Forwyn Fair ac yn y darn hwn mae Grace Williams yn defnyddio’r llinell gyntaf (Ave Maris Stella – Henffych, seren y môr) fel deisyfiad cyn pob un o’r 7 pennill. Mae rhythmau a llinellau melodig y gerddoriaeth yn adlewyrchu llanw a thrai’r môr – delweddaeth sy’n arddangos diddordeb ysol gydol oes y gyfansoddwraig yn y môr a’i holl oriogrwydd.
Mae’r gwaith cerddorfaol hwn yn dal i fod yn un o’r darnau mwyaf poblogaidd o eiddo’r gyfansoddwraig. O’r cychwyn cyntaf, pryd y clywir mudsain yr utgorn yn dyfynnu’r hwiangerdd Gymraeg “Dacw Mam yn dŵad ar ben y Gamfa Wen” (cân sy’n aml yn cael ei chamgymryd am Yankee Doodle Dandy gan wrandawyr o America), mae’r cyfansoddiad hwn, sy’n 11 munud o hyd, yn cyflwyno trefniant medrus a hyfryd o nifer o ganeuon traddodiadol. Gwelir bod Grace Willias yn cadw’r alawon mwyaf bywiog ar gyfer y dechrau a’r diwedd, gan fframio adran ganol gyferbyniol lle clywir cerddoriaeth arafach, fwy hiraethus. Cafodd y darn groeso brwd yn y perfformiad cyntaf yn 1940 ac mae wedi parhau’n boblogaidd gyda chenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o gerddorion proffesiynol a cherddorion ifanc fel ei gilydd.
Cyfansoddwyd y darn sylweddol hwn i gôr meibion a phiano – darn sy’n para ychydig yn llai na 9 munud – ar gyfer lleisiau enwog Côr Meibion Treorci. Christina Rossetti yw awdur y geiriau – gwraig a gofir yn bennaf, yn ôl pob tebyg, am iddi lunio’r garol Nadolig “In the Bleak Mid-winter”. Trefniant synhwyrus, cwbl nodweddiadol o’r gyfansoddwraig, ar gyfer lleisiau 4 rhan gyda rhai israniadau yw Sleep at Sea. Mae’r ddelweddaeth o drai a llanw’r môr yn fythol bresennol yn rhan donnog y piano ac yn yr harmonïau cyfnewidiol sydd eto’n gwbl resymegol bob tro.
Mae’r Sonatina hon yn un o nifer o ddarnau offerynnol i’r piano neu ensemble bychan a ysgrifennodd Grace Williams, yn ei hugeiniau bryd hynny, yn ystod y deng mlynedd cyn yr Ail Ryfel Byd. Mae’r gerddoriaeth yn dyddio o 1931 a hithau newydd ddychwelyd o Fienna ar ôl ennill ysgoloriaeth a’i galluogodd i astudio gydag Egon Wellesz. Cyn hynny, roedd Grace Williams wedi cael gwersi cyfansoddi gyda Ralph Vaughan Williams yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ac nid mympwy yw nodi mai dylanwad ei chyn athro sydd i’w glywed yn fwyaf arbennig yn y gwaith hwn a luniwyd ar ffurf tri symudiad.
Gallwch wrando isod i recordiad o’r Sonatina, gyda Sarah Newbold (ffliwt) a Zoe Smith (piano).
Ysgrifennwyd y gwaith penigamp hwn yn 1963 ar gyfer Bram Gay a oedd bryd hynny’n brif utganwr gyda Cherddorfa’r Hallé ym Manceinion. Perfformiwyd y concerto droeon mewn cyngherddau cyhoeddus ac ar y teledu; cafodd ei hybu gan Gay a’i fabwysiadu’n frwd gan y ddau arweinydd, Syr Adrian Boult a Syr Charles Mackerras. Tri symudiad sydd i’r gwaith ac mae’r darn yn cynrychioli ennyd uchafbwyntiol i’r gyfansoddwraig yn y diddordeb fu ganddi ar hyd ei hoes yn ansawdd telynegol a llawn mynegiant yr offeryn unawdol hwn. Bydd y Concerto yn cael ei ryddhau cyn hir ar Recordiau Tŷ Cerdd mewn perfformiad a roddir gan Phillippe Schartz a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Prynwch y sgôr o Curiad:
Format: Audio CD
Price: £14.99
Buy Now