Ganed Joseph Parry yn Georgetown, Merthyr Tudful, pan oedd y dref honno yn dal yng nghalon y chwyldro diwydiannol. Yn naw oed, aeth i weithio fel colier bach ac wedyn, yn ddeuddeg oed, fel gweithiwr haearn, ond roedd yn byw ynghanol amgylchfyd cerddorol, ac yn aelod o gôr Rosser Beynon. Ymfudodd ei deulu i Dannville, Pensylfania yn 1854 lle bu’n astudio cerddoriaeth gan weithio ar yr un pryd yn y melinau rholio. Arweiniodd ei lwyddiannau yn eisteddfodau, ac ar ôl hynny, gyda darnau wedi ei phostio i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru i gymunedau yng Ngogledd America codi arian i’w alluogi e i astudio yn yr Academi Frenhinol Gerddoriaeth yn Llundain ble enillodd e’r fedal gorau am gyfansoddi. Dychwelodd i Danville lle’r enillodd fri fel athro a chyfansoddwr yn goleg cerddorol ei hunan, cyn cael ei benodi yn Athro Cerdd gyntaf ym Mhrifysgol newydd Aberystwyth ym 1874.
O ganlyniad i’w egni diamheuol aeth ati i sefydlu ysgol gerdd yn Abertawe ym 1881 ac wedyn daeth yn Athro a phennaeth yr adran gerdd newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1888, ac arhosodd yno hyd ei farw. Fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Awstin, Penarth, lle bu’n byw yn ystod ei flynyddoedd olaf.
Drwy gydol ei oes bu’n ddilychwin ei gymeriad; meddai ar gyfaredd, carisma, roedd yn athro ysbrydoledig a dawnus ac yn gerddor amryddawn a chyflawn. Heb os, roedd yn ddyn ei gyfnod: yn Gristion didwyll, yn llwyrymwrthodwr cadarn ac yn ddyn teulu, a chanddo duedd, efallai, tuag at fod ychydig yn hunanbwysig. Roedd ei gyfansoddiadau mwy uchelgeisiol e.e. yr opera Gymraeg gyntaf, Blodwen (1878) a’i oratorios, Emmanuel (1880) a Saul (1892) yn gynnyrch eu cyfnod. Fe’i anfarwolwyd serch hynny yn yr emyn-dôn Gymraeg Aberystwyth, ac, o bosib, yn y rhan-gân Gymraeg enwocaf oll, Myfanwy, sy’n dwyn i gof, yn gwbl ddiymdrech, Gymru’r cymoedd glo, y capeli anghydffurfiol a thraddodiad gwych y corau meibion.
Gallwch ddarllen mwy amdano fywyd Joseph Parry ar www.josephparry.org
Mae’r darn hwn, i bob golwg, yn dyddio o’r cyfnod pan oedd Parry yn Athro Cerdd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth; ymddengys bod y gwaith wedi ei ysgrifennu’n wreiddiol dan y teitl Recollections of the Fireside, gyda’r gair ‘Reverie’ yn is-deitl. Yn dilyn hyn, yng nghasgliad llawysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol, ceir darn arall ar gyfer y piano – darn sy’n gysylltiedig o ran thema ac yn dwyn y teitl Recollections of Spring, er bod y geiriau ‘of Spring’ yn ymddangos fel pe baent wedi eu dileu yn ddiweddarach. Yn ôl pob tebyg, fe’u bwriadwyd fel set o ddarnau (dau neu fwy) a gyfansoddwyd yn fuan wedi i Parry ennill ei radd Mus. Doc. (Cantab.) a ddyfarnwyd iddo yn 1878. Serch hynny, daw darn arall – union yr un fath – i’r wyneb yn ddiweddarach fel darn annibynnol, a hynny mewn copi sy’n dwyn y teitl ‘A Seaside Reverie’. Mae’r gwaith hwn yn gywrain a chrand ar brydiau, gydag arpegios llifeiriol a breuddwydiol ynghyd ag ansawdd sydd bron yn gerddorfaol ar adegau.
Mae’r fersiwn printiedig i’w brynu fan hyn:
Neu fel fersiwn digidol i brintio eich hunain fan hyn:
Cyfansoddwyd y darn byr, pedwar symudiad, hwn ar gyfer cyfeilles i Parry, sef Kitty Wanes (myfyrwraig o bosib) tra’r oedd yn ddarlithydd cerdd yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd. Ymhlith nifer o alawon Cymreig adnabyddus eraill, clywir yr alaw o ‘Toriad y Dydd’ yn yr ail symudiad, sef ‘Lament’. [Caiff yr alaw hon ei hadnabod hefyd fel ‘Proffwydoliaeth Taliesin’ ac mae’n adrodd am broffwydoliaeth Taliesin o’r chweched ganrif gyda golwg ar yr Hen Frythoniaid: ‘Eu Nêr a folant, eu hiaith a gadwant, eu tir a gollant, ond Gwyllt Walia.’] Cyfansoddwyd y darn mewn arddull glasurol-ramantaidd a byddai hwn wedi bod yn ddarn ardderchog i fyfyriwr ei berfformio mewn datganiad, a dyna oedd ei fwriad mae’n fwyaf tebyg.
Mae’r fersiwn printiedig i’w brynu fan hyn:
Neu fel fersiwn digidol i brintio eich hunain fan hyn:
Santes Dwynwen yw Nawddsant Cariadon Cymru. Darn ar gyfer lleisiau Dynion yw darn Parry a’r bardd Gwynionydd (Benjamin Williams) yw awdur y geiriau. Defnyddiwyd y gwaith fel darn prawf yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1896. Gwelir dechreuad cyfeiliant piano i’r darn hwn yn y llawysgrif er ei fod yn diflannu ar ôl tudalen neu ddwy. Ar frig y sgôr, wedi ei nodi gan Parry ei hun (fel cymorth i unrhyw un nad yw’n Gymro fydd yn perfformio ei gerddoriaeth) ceir disgrifiad byr o bwy oedd Dwynwen: the smile of bliss, the Venus of the Britons; a woman’s name, the daughter of Brychan Brycheiniog”. (“gwên gwynfyd, Fenws y Brythoniaid; enw benyw, merch Brychan Brycheiniog.)
Mae’r fersiwn printiedig i’w brynu fan hyn:
Neu fel fersiwn digidol i brintio eich hunain fan hyn:
Cyflwynwyd y darn hwn o waith Parry, a gyfansoddwyd tra’r oedd yn byw ym Mhenarth, er cof am y gwleidydd Rhyddfrydol a’r cynghorydd lleol, Idris Williams a fu farw’n sydyn yn Eglwys yr Annibynwyr yn y Porth, De Cymru ym 1894. Darn mewn cywair lleddf alaethus yw hwn ac mae’r ffordd y daw pob adran o leisiau’r corws i mewn fel unawdydd yn awgrymu tôn galargerdd (Requiem) fechan. Mae’n cyfleu’r tristwch a’r tywyllwch sy’n taro’n syth ar ôl colled, a hynny mewn ffordd effeithiol a chryno. Perfformiwyd y gwaith yn wreiddiol mewn cyfarfod coffa i Idris Williams; mae’r gwaith yn cyrraedd diweddglo gobeithiol gyda chorâl (‘Haydn’) – corâl fyddai wedi cael ei pherfformio gan y gynulleidfa.
Mae’r fersiwn printiedig i’w brynu fan hyn:
Neu fel fersiwn digidol i brintio eich hunain fan hyn:
Nid yw dyddiad cyfansoddi’r darn anghyhoeddedig hwn – Two Christmas Eves – yn wybyddus. Gosodiad o eiriau gan yr Athro Rowlands, Coleg Aberhonddu – cydweithiwr i’r cyfansoddwr am amser maith – yw’r gwaith ac mae’n cymryd ei le yn dda yng nghanon caneuon Parry, canon a oedd eisoes ar gynnydd. Mae’r darn yn nodweddiadol o’i arddull yng nghyd-destun cyfansoddi caneuon ac yn debyg o ran cywair i ganeuon eraill o’i eiddo e.e. Hoff Wlad fy Nghenedigaeth. Mae’r gân yn tyfu o ddechreuad syml ac yn datblygu’n glasur o ddiweddglo sy’n nodweddu cân o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda chyfeiliant cordiol mawreddog yn llawn tripledi ailadroddus. Mae i hon, serch hynny, ansawdd ysgafnach, hwyliog, fyddai’n ei gwneud yn glasur o gân Nadolig (ond dieithr hyd yma)!
Mae’r fersiwn printiedig i’w brynu fan hyn:
Neu fel fersiwn digidol i brintio eich hunain fan hyn: