Mansel Thomas 1909-1986

Cerddor Cymreig nodedig oedd Mansel Thomas – yn gyfansoddwr, pianydd, arweinydd, beirniad, arholwr, Cyfarwyddwr Gwyliau a Phennaeth Cerddoriaeth BBC Cymru. Cafodd fywyd prysur ac amrywiol iawn ym myd cerddoriaeth ond ei brif ddiléit oedd cyfansoddi ac mae’r holl gyfansoddiadau o’i eiddo’n tystio i hyn – dros 400 o deitlau bellach mewn print.

Yn frodor o’r Rhondda Fach, enillodd Ysgoloriaeth y Rhondda ac yn 16 oed aeth i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain i astudio cyfansoddi a’r piano. Yn y fan honno, cafodd gyfnod disglair iawn fel myfyriwr, gan ennill gwobrau arbennig ac yn graddio ym 1930 gyda gradd B.Mus allanol o Durham. Yna, treuliodd pum mlynedd arall yn Llundain fel cyfansoddwr, arweinydd a répétiteur ac ym 1936 ymunodd â’r BBC yng Nghaerdydd fel cynorthwyydd cerdd a dirprwy arweinydd Cerddorfa Gymreig y BBC oedd newydd ei ffurfio.

Ar ôl gwasanaethu yn y rhyfel, dychwelodd i’r BBC a daeth yn Brif Arweinydd y gerddorfa ac ym 1950 fe’i penodwyd yn Bennaeth Cerdd BBC Cymru. Dyma flynyddoedd ffurfiannol a chynyddodd amlder ac ansawdd darllediadau o gerddoriaeth Gymreig ac artistiaid o Gymru o dan ei wyliadwriaeth graff a phroffesiynol. Fodd bynnag, ym 1965, ymddeolodd o’r BBC er mwyn ymroi i gyfansoddi ac ar ôl hynny cynhyrchodd yr hyn sydd fwy na thebyg ei gorpws pwysicaf o gyfansoddiadau, yn enwedig mewn meysydd corawl a lleisiol, gan gynnwys gweithiau i’r Arwisgo Brenhinol ym 1969. Ceir dros 150 o ganeuon unawd a threfniannau gwreiddiol megis Y Bardd, A Hymn to God the Father a’r setiau o ddeuddeg cân gan gynnwys Caneuon Grace a Siân. Mae’r gerddoriaeth gorawl yn cynnwys sawl grŵp – corau meibion, merched, cymysg a phlant – gan gynnwys motetau, anthemau, rhan-ganeuon, trefniannau a gweithiau corawl mwy megis Salm 135, y cantata In Praise of Wisdom a’r Three Songs of Enchantment. Mae ei weithiau offerynnol niferus yn defnyddio ensemblau amrywiol ac fe’u coronir gan ei Bumawd i’r Piano, Mân Amrywiadau (band pres) a Thema ac Amrywiadau (cerddorfa).

Mae Ymddiriedolaeth Mansel Thomas, a sefydlwyd er cof amdano, yn sicrhau bod ei gynhysgaeth gyfansoddol enfawr yn cael ei chyhoeddi a’i hyrwyddo. I berfformwyr mae llawer i’w ddarganfod yng nghrefftwaith medrus ac arddull deniadol cerddoriaeth y cyfansoddwr hwn.

Mansel Thomas hi res

With thanks to Terence Gilmore-James of the Mansel Thomas Trust. / Gyda ddiolch i Terence Gilmore-James o'r Ymddiriedolaeth Mansel Thomas.



Mansel Thomas's manuscripts are held at the National Library of Wales. Please visit the database of their collection here.

Mae llawysgrifau Mansel Thomas o fewn casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ewch i chwilio'u bas data yma.


Click image for more pages

Daffodils – TTBB & SATB (1927/1939)

Cyfansoddwyd y rhan-gân hon yn ystod blynyddoedd cynnar Mansel Thomas fel myfyriwr yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain lle bu’n astudio cyfansoddi a’r piano o 1925. Fe’i hysbrydolwyd i osod i gôr meibion y gerdd To Daffodils gan y bardd telynegol a chlerigwr Seisnig, Robert Herrick (1591-1674) a dyma a anfonodd  i Gôr Meibion Pendyrys a ffurfiwyd ym 1924 ac a glywyd ganddo yn ymarfer mewn ysgol iau ger ei gartref yn Tylorstown yn y Rhondda Fach. Derbyniwyd llawysgrif y rhan-gân ym 1927 ac mae tystiolaeth o berfformiad yn y Saesneg gan gôr meibion (Cymdeithas Glee) yr un flwyddyn a hefyd o ddarllediadau radio mynych yng Nghymru ar ôl hynny. Cadwodd le mor gadarn yn repertoire y côr ac roedd mor boblogaidd gofynnodd W.S. Gwynn Williams (Cyhoeddiadau Gwynn) i’r cyfansoddwr am addasiad i leisiau cymysg (SATB) a gyhoeddwyd (dan y teitl Daffodils) ym 1939. Ar yr adeg honno, ychwanegwyd fersiwn o’r gerdd yn y Gymraeg gan T. Gwynn Jones dan y teitl Cennin Aur.

Mae’r gerddoriaeth yn adlewyrchu’n dyner edifeirwch y gerdd bod cennin Pedr y gwanwyn yn ‘… haste away so soon’, einioes, fel i ni feidrolion, sydd ond yn fyr. Mae’r gosodiad cerddorol gan y cyfansoddwr yn ei arddegau’n nodedig am aeddfedrwydd ei fframwaith melodig, gweadol a harmonig ac yn enwedig hefyd am ei sensitifrwydd i rythmau amrywiol y gerdd y mae’n eu dehongli gyda sicrwydd mydryddol disglair.


Caneuon Grace a Siân (1945)

Cyhoeddwyd y Deuddeg Cân i Blant hyn gan Mansel Thomas ym 1964 gan Wasg Prifysgol Cymru, ond fe’u cyfansoddwyd ugain mlynedd ynghynt. Mae’r sgôr leisiol yn disgrifio’r caneuon fel Trefniannau o Hwiangerddi Cymraeg a cherddi gan I.D. Hooson ac Eifion Wyn (Eliseus Williams). Geiriau Saesneg gan Iolo Davies. Ychwanegwyd y Rhagair canlynol gan y cyfansoddwr:

“Ysgrifennwyd Caneuon Grace a Siân tra oeddwn wedi fy lleoli ym Mrwsel fel aelod o Luoedd E.F. ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Twts bach oedd Grace a Siân ar y pryd ac ysgrifennais y caneuon fel y gallent gael eu canu iddynt. Nid yw hyn yn golygu bod y caneuon eu hunain yn rhy anodd i blant eu canu a gobeithiaf y bydd llawer o blantos yn cael pleser o’u dysgu.”

Roedd Grace a Siân wedi ymgyffroi’n lân pan gyrhaeddodd yr amlen gyda’r llawysgrifau (dyddiedig ‘Medi 1945’) o Frwsel! Yn fuan iawn synhwyrodd y merched fod i’r caneuon alawon hynod ddeniadol a chofiadwy, boed yn sionc neu’n fyfyriol, ac mae rhan y piano’n ychwanegu’n fawr at gymeriad a naws pob un. Mae’r rhan fwyaf o’r caneuon yn para llai na munud ac ar recordiad LP Cwaliton (QMP 2000) gan Esme Lewis (Soprano) gyda’r cyfansoddwr yn cyfeilio iddi, mae’r holl ganeuon yn para llai na deuddeg munud. Ceir dau recordiad masnachol arall o’r caneuon sydd hefyd yn haeddu cael eu hailgyhoeddi ar CD. Mae’r caneuon hyn yn addas iawn i’w perfformio gan gantorion ifainc ac ifainc iawn, boed fel unigolion neu mewn grwpiau unsain.

Click image for more pages


Click image for more pages

Y Bardd – sgôr gerddorfaol(1946/1957)

Yn aml, cyfeirir at “Y Bardd” fel un o’r gorau o’r holl ganeuon unawd gan gyfansoddwr o Gymru – yn bendant dyma farn y cyfansoddwr William Mathias yn ei deyrnged goffa i Mansel Thomas ym 1986 – “…..os oes gosodiad mwy hiraethus i eiriau Cymraeg na’r Bardd ni wn amdano.”  Bu Aneirin Talfan Davies, Pennaeth Rhaglenni BBC Cymru a chydweithiwr i Mansel Thomas, yn talu teyrnged i’r bardd a chyfansoddwr mewn nodyn ar glawr LP fel hyn:

“Mae englynion R. Williams Parry, in memoriam Hedd Wyn, wedi mynegi’r galar hwnnw mewn geiriau aruchel, ac mae eu dwysdeimlad wedi’i amlygu’n dda yn y trefniant gogoneddus hwn gan Mansel Thomas.”

Cyfansoddwyd y gerddoriaeth ar gyfer y gân hon ym mlynyddoedd cynnar yr Ail Ryfel Byd ac fe’i cyhoeddwyd ym 1945 fel can i bob cwmpasran leisiol ac eithrio’r bas. Ar ôl dychwelyd ym 1946  o wasanaethu yn y rhyfel (dramor yn bennaf), ymgymerodd Mansel Thomas â swydd uwch yn y BBC fel Prif Arweinydd Cerddorfa Gymreig y BBC ar ei newydd wedd, a chododd y cyfle wedyn i berfformio’r gân hon gyda cherddorfa. Roedd ei offeryniaeth yn cymryd i ystyriaeth yr adnoddau cymharol fach oedd ar gael a chymeriad cynnil ei drefniant o’r geiriau – llinynnau â ffliwt, clarinét, corn a thelyn. Roedd y llinynnau’n cadw ymhell o fewn cwmpas rhan y piano, gyda’r nodweddion a roddwyd i’r offerynnau chwyth yn tueddu at ddeunydd unawd ac ychwanegiad at yr alaw. Fodd bynnag, wrth i adnoddau’r gerddorfa gynyddu ar ddechrau’r 1950au, galluogwyd Mansel Thomas i greu gweadau cerddorfaol cyfoethocach drwy ddyblu’r adran chwyth a chyflwyno aml i sgôr ‘divisi’ ar gyfer y llinynnau – gan ddwysáu ac ehangu cwmpasrannau’r llinynnau, nid yn unig ar y dechrau, ond hefyd yn yr adran ganolog fwy angerddol ac ar gyfer y codeta cordiol olaf.

Felly, roedd yr ‘Offeryniaeth Newydd’ (chwedl yntau) hefyd yn barod ar gyfer recordiad LP Cwaliton o’r gân ym 1957 gan yr unawdydd Helen Watts (contralto) gyda Cherddorfa Symffoni Llundain dan arweiniad Mansel Thomas – recordiad o gryn werth ac mae’n hen bryd iddo gael ei ailgyhoeddi ar CD!