Morfydd Owen (1891-1918)

Nid yw’r un cyfansoddwr Cymreig arall wedi hudo cenedlaethau hwyrach yn fwy nag Morfydd Owen. Pan fu farw ond yn chwech ar hugain mlwydd oed, roedd ei hallbwn eisoes yn niferu oddeutu 180 o weithiau, a nifer ohonynt yn addawol a dangos cryn dipyn o’i harddull unigryw. Yn ystod ei bywyd byr gwnaeth ddylanwad mawr ar gerddoriaeth Gymreig ac roedd ei chenhedlaeth yn unfrydol wrth ddatgan mae hi oedd y cerddor mwyaf talentog a ddaeth o Gymru. Roedd ei phrydferthwch, cymeriad bywiog a bywyd lliwgar yn Llundain yn ystod ail ddegawd y ganrif ddiwethaf hefyd yn ychwanegu i’w gwaddol ac mae ei cherddoriaeth yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd pob blwyddyn.

Ganwyd Morfydd Owen yn Nhrefforest, Morgannwg, ac erbyn iddi droi’n un ar bymtheg mlwydd oed roedd ei dawn amlwg wedi ei harwain i astudio yn breifat gyda’r Athro David Evans yn adran gerdd Prifysgol Coleg De Cymru a Sir Fynwy, lle bu’n fyfyrwraig ddwy flynedd yn ddiweddarach. Roedd ei doniau yn ymestyn ymhellach na chyfansoddi i ganu a chwarae’r piano (roedd eisoes wedi perfformio Piano Concerto Grieg yn ei harddegau). Symudodd o Gaerdydd i’r Royal Academy of Music, Llundain, lle astudiodd gyda Frederick Corder a chael ei hadnabod yn gyflym yn un o fyfyrwyr mwyaf rhagorol ei chenhedlaeth gyda’i Nocturne for Orchestra yn derbyn perfformiad yn y Queen’s Hall yn 1913.

Aros yn Llundain a wnaeth dros y blynyddoedd canlynol, a chymysgu o fewn cylchoedd celfyddydol a gwleidyddol wrth gadw cysylltiad agos â Chymru trwy Eglwys Bresbyteraidd Gymreig Charing Cross. Gwnaeth gyfarfod â D.H. Lawrence ac Ezra Pound yn ogystal â mewnfudwyr o Rwsia, a arweiniodd ati’n ymgeisio i astudio Rwsieg a cherddoriaeth gwerin Ddwyrain Ewrop trwy Gymrodoriaeth Prifysgol. Yn ystod y cyfnod yma roedd ei gweithiau’n cael eu cyhoeddi a chafodd ei hethol yn Gyfaill i’r Royal Academy yn 1918. Dwy flynedd yn gynt, yn 1916, cyfarfu a chychwyn carwriaeth gyda chofiannydd Sigmund Freud, Ernest Jones, a arweiniodd at briodas yn Chwefror 1917. Roedd y berthynas yn un gythryblus ac roedd nifer o’i ffrindiau’n pendroni am ei dewis o ŵr. Er hyn, daeth y berthynas i ben gyda’i marwolaeth oherwydd llid y pendics tra ar wyliau yn y Gŵyr ym mis Medi 1918.

Mae CD o’i weithiau wedi cael ei recordio yn ddiweddar gan Elin Manahan Thomas a Brian Ellsbury ac mae e ar gael fan hyn:

Morfydd Owen

Thanks to Cardiff University for providing the manuscripts on this page. The originals are held at Cardiff University Special Collections and Archives. Browse the catalogue here.


Click image for more pages

Sonata yn E leiaf (1910)

Cwblhawyd y Piano Sonata yn E leiaf ym mis Ebrill 1910 yn ystod blwyddyn gyntaf Morfydd Owen yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Coleg De Cymru a Sir Fynwy. Dyma oedd ei chyfansoddiad graddfa lawn cyntaf, wedi ei osod ym mhedwar symudiad (Grave, Allegro vivace, Minuet & Trio a Finale – Moderato). Mae’r arddull yn adlewyrchiad o fyfyriwr yn ymarfer y ffurfiau Clasurol. Mae’r Grave a Allegro Vivace (wedi eu nodi yn y sgôr yn ‘Movement in Sonata Form’) yn dangos dylanwad Sonata Pathétique Beethoven ac mae’n bosib bod y gwaith, yn ei chyfanrwydd, wedi ei hysgrifennu ar gyfer tasg cyfansoddi yn ei blwyddyn gyntaf.

Mae’r fersiwn printiedig i’w brynu fan hyn:


Neu fel fersiwn digidol i brintio eich hunain fan hyn:

Buy Score


The Refugee (1911)

Cafodd y gwaith corawl byr yma ar gyfer côr cymysg a phiano ei chwblhau yn 1911, tybier tua diwedd cyfnod Morfydd Owen yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Coleg De Cymru a Sir Fynwy. Gosodiad ydyw o eiriau Friedrich Schiller trwy gyfieithiad Edward Bulwer Lytton. Dyma un o’i gweithiau mwyaf anhysbys, heb ei nodi ymhlith rhestr o’i gweithiau cyhoeddedig ac yn ei hanfod yn waith myfyriwr, er ei fod yn llawer mwy soffistigedig na’r sonata gynharach. Mae’n cwympo i dair adran: moderato; darn canol yn 6/8 a diweddglo araf (Lento).

Mae’r fersiwn printiedig i’w brynu fan hyn:

Click image for more pages


Click image for more pages

Two Madonna Songs (1912 & 1913)

1 – To Our Lady of Sorrows

2 – Slumber Song of the Madonna

Trwy’r ddwy gan yma, a ysgrifennwyd yn 1912 a 1913, gwnaeth Morfydd Owen gamu o’i gweithiau cynharach yn fyfyrwraig i’w llais aeddfetach. Maent yn hanu o fis Ebrill 1912 (yn ystod ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Coleg De Cymru a Sir Fynwy) i Ebrill 2013, pan oedd eisoes yn mynychu’r Royal Academy of Music. Cafodd y cyntaf ei chyfansoddi yn Nhrefforest a’r ail yn ei ystafelloedd yn Maida Vale, Llundain. Mae’r geiriau gan Wilfred Hinton (1887-1949) ac Alfred Noyes (1880-1958). Dilynodd Hinton yrfa yn economegydd, ond cafodd ei addysg yn ysgol Howard Gardens yng Nghaerdydd. Wedi ei marwolaeth, aeth Ernest Jones a Frederick Corder ati i drefnu cyhoeddiad pedwar cyfrol o addasiad cofiant o’i gwaith ar gyfer llais a phiano ac i unawd biano (Anglo-French Music Company Ltd, Llundain 1924) lle y mae’r ddau ddarn yma yn ymddangos. Mae’r ddwy lawysgrif yma o To Our Lady of Sorrowsyn ymddangos mewn dwy gywair gwahanol, C fwyaf a D leiaf, er bod dyddiad y cyfansoddiad yr un peth ar y ddwy.

Cerddoriaeth ddalen o’r ddau gân fan hyn:


Gweddi y Pechadur (1913)

Cyfansoddwyd Gweddi y Pechadur ym mis Mehefin 1913, Llundain, ac ystyrier hon yn helaeth yn gampwaith Morfydd Owen. Mae’r llawysgrif yn nodi ei fod yn gân gysegr â chyfeiliant organ. Mae’n gosod geiriau Thomas Williams (1761-1844), gweinidog yr annibynwyr a chyfansoddwr emynau a sefydlodd Gapel Bethesda yn Llanilltud Fawr yn 1806. Mae’r geiriau yn dod o enau pechadur edifar sydd wedi ei lethu ag euogrwydd ac yn erfyn ar Dduw am faddeuant. Cyhoeddwyd y gwaith gyntaf gan Snell yn 1922.

Mae’r fersiwn printiedig i’w brynu fan hyn:

Click image for more pages


Click image for more pages

Prelude yn E leiaf (1914)

Mae’r rhagarweiniad cryno sydd yn dyddio o fis Hydref 1914 yn un o nifer o weithiau piano Morfydd Owen a chyfansoddwyd yn ystod y cyfnod yma. Diddorol yw nodi ei fod yn yr un cywair a’r Sonata gynt yn 1910, yn ogystal â dangos elfennau tebyg, ond mae’r gerddoriaeth yn aeddfetach a mwy soffistigedig, fel y gwelir yn y cytgord estynedig o’r cychwyn cyntaf. Yn ddiweddarach ychwanegwyd yr is-deitl Beti Bwt.

Mae’r fersiwn printiedig i’w brynu yn y casgliad yma:


Morfydd Owen - POLI CD cover

(English) Morfydd Owen: Portrait of a Lost Icon

Format: CD

Price: £9.99

Buy Now