Yn ystod ei oes, Thomas Osborne Roberts oedd un o gerddorion uchaf ei barch a mwyaf hoff gan bawb yng Nghymru. Mae siŵr o fod yn fwyaf adnabyddus heddiw (os yw’n adnabyddus o gwbl) fel cyfansoddwr caneuon megis ‘Y Nefoedd’ ac ‘Y Mab Afradlon’, ond bu hefyd yn weithgar iawn fel cyfeilydd, arweinydd, athro a beirniad. Roedd rhwyddineb ei Gymraeg a’i Saesneg yn golygu ei fod yn siaradwr poblogaidd yn yr eisteddfodau lu a gynhelid yn ystod blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif ar boptu i Glawdd Offa, ond rhoddodd ei aml ddoniau fel cerddor – yn gyfansoddwr, pianydd ac athro – awdurdod iddo y tu hwnt i’r cylch yma. Contralto operatig oedd ei ail wraig, Maggie Jones (sy’n fwy adnabyddus o dan ei henw llwyfan Leila Megàne) y byddai Thomas yn ei hebrwng ar deithiau canu i La Scala, Tŷ Opera’r Metropolitan, Covent Garden ac aml i ganolfan enwog arall. Roedd yn boblogaidd iawn ac yn cael ei barchu gan gymheiriaid cerddorol amlwg fel Vaughan Williams, Grenville Bantock, David Vaughan Thomas a W S Gwynn Williams, ac er na chafodd yrfa artistig mor ddiffiniedig â’u rhai hwythau, mae ei gynhysgaeth o hyd yn cynnwys sawl cân boblogaidd/clasurol a rhan-gân oedd yn llwyddiannus iawn yn ei rhinwedd ei hun.
Wedi’i eni yn Weston-rhyn ger y Waun, Sir Ddinbych, symudodd ei deulu i Ysbyty Ifan, Betws-y-Coed, pan oedd yn 11 oed. O oedran cynnar roedd wedi dod i ymhyfrydu mewn cerddoriaeth gan gyfeilio i’w dad, oedd ei hun yn gerddor medrus, a ganai tra byddai’r Roberts ifanc yn chwarae’r harmoniwm.
Wrth weithio fel mesurydd tir, yn 23 oed, symudodd i Landudno a thra oedd yno, penderfynodd adael y proffesiwn yma i roi mwy o’i amser i gerddoriaeth. Yn Llandudno y cyfansoddodd un o’i ganeuon mwyaf poblogaidd o’r enw ‘Y Mab Afradlon’. Hefyd dechreuodd gyfansoddi i gerddorfa leol y Pafiliwn a fyddai’n perfformio sawl un o’i weithiau cerddorfaol cynnar gan gynnwys ei amrywiadau ar yr emyn-dôn ‘Bangor’; buasai hyn yn brofiad gwerthfawr o offeryniaeth iddo gan fod gofyn iddo, yn nes ymlaen, drefnu sawl un o’i ganeuon mwyaf poblogaidd ar gyfer perfformiadau mawr.
Thomas Osborne Roberts oedd un o’r beirniaid a ddyfarnodd ei gwobr gerddorol gyntaf erioed i Leila Megàne am ganu yn Eisteddfod Ynys Môn ym 1910 – eu cyfarfyddiad cyntaf. Ar ôl hynny, ar y dechrau, aethant eu ffyrdd eu hunain – yntau’n symud o Landudno yn ôl i bentref ei febyd yn Ysbyty Ifan ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf, gan ddechrau addysgu’n breifat a chyfeilio i gantorion mewn cyngherddau; hithau’n cychwyn ar yrfa ddisglair ym myd yr opera, gan astudio yn Llundain a Pharis ac yn sicrhau, yn y pen draw, gontract pum mlynedd yn Covent Garden ym 1919.
Yna, ym 1923, estynnodd Megàne wahoddiad i Roberts i’w hebrwng ar daith drwy America lle gwnaethon nhw briodi y flwyddyn ganlynol yn Efrog Newydd. Ar ôl dychwelyd, fe wnaethon nhw ymgartrefu yng Nghaernarfon a dechreuodd Roberts addysgu’n breifat ac yn yr ysgol ramadeg leol.
Yn y 1930au, symudodd i Lundain fel athro a chyfeilydd ond dychwelodd i ffermdy anghysbell yng Nghymru – ger Pentrefoelas – pan dorrodd y rhyfel ym 1939. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel, bu’n gweithio’n bennaf yn swyddfa fwyd Bae Colwyn ond parhaodd â’i holl weithgareddau cerddorol arferol yn ei amser hamdden.
Fe’i trawyd yn wael ar ôl beirniadu yn Eisteddfod Lerpwl ym 1948 a bu farw ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Fe’i claddwyd yn Ysbyty Ifan.
Credid yn eang nad oedd wedi derbyn unrhyw addysg gerddorol draddodiadol neu ffurfiol mewn unrhyw goleg na phrifysgol ac fe’i disgrifiwyd bob amser gan y wasg Seisnig fel rhywun ‘hunanaddysgedig’. Fodd bynnag, mae ei frawd (ac roedd tipyn o flynyddoedd rhyngddynt) yn cofio’n nes ymlaen fod Osborne wedi astudio ym Mhrifysgol Bangor ar ryw adeg, er nad oedd yn siŵr pa bwnc. Serch hynny, gallai sefyll yn gyfforddus ochr yn ochr â’i gyfoedion (oedd yn sicr wedi derbyn addysg dda) fel llais awdurdodol am gerddoriaeth yng Nghymru – ym maes cyfansoddi yn ogystal ag fel arweinydd corau, cyfeilydd a beirniad.
Er 1951, rhoddir ei enw i wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol a ddyfernir i gantorion o dan 25 oed – ymhlith y rhai sydd wedi’i hennill mae Trystan Llŷr Griffiths, Gwawr Edwards a Menna Cazel Davies. Ym 1933, fe’i hetholwyd yn Aelod Cyswllt o’r Coleg Cerdd Brenhinol am wasanaethau i addysg gerdd.
Diolch i Ilid Anne Jones am ei gymorth gyda'r tudalen yma.
Thomas Osborne Roberts's manuscripts are held at the National Library of Wales. Please visit the database of their collection here.
Mae llawysgrifau Thomas Osborne Roberts o fewn casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ewch i chwilio'u bas data yma.
Bu farw Thomas Osborne Roberts yn fuan ar ôl traddodi ei feirniadaeth olaf yn Lerpwl ym 1948 ond ychydig cyn hynny, cyfansoddodd ychydig ddarnau byr i Gyfrinfa Tudno Sant yn Llandudno – Cyfrinfa Fasonaidd yr oedd yn aelod ohoni. Y rhain oedd Preliwd Tudno Sant i’r piano/organ, Suo Gân a Blaenhafren (trefniannau arbennig oedd y ddau olaf o ddarnau hŷn). Anfonodd rai o’r rhain at y Gyfrinfa oedd yn anffodus yn gorfod gohirio’r perfformiad o’r darnau hyn nes i’w blaenoriaethau ddychwelyd i faterion mwy ‘artful’ yn dilyn cyfnod prysur iawn i’r Mr Hughes dan sylw. Yn ôl nodyn a adawyd gan Leila Megàne, y Preliwd oedd y darn olaf iddo chwarae erioed ar eu piano – “yn ei ddillad gorau, yn barod i adael am Lerpwl. Ei dwtsh bach olaf.”
Darn prawf oedd Cwsg fy Anwylyd Di-nam, rhan-gân i leisiau merched, yn Eisteddfod Genedlaethol 1923 yn yr Wyddgrug (categori’r Corau Agored i Ferched) ynghyd â The Snow gan Elgar. Enillwyd y wobr gan Gôr Orffews Plymouth – doedd hi ddim yn anarferol i’r Eisteddfod ddenu llawer o gorau o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i gystadlu ar yr adeg honno. Vaughan Williams oedd un o feirniaid y gystadleuaeth ac wrth grynhoi’r diwrnod, soniwyd iddo ddatgan: “Wales has bad music like all other countries, but if Welshmen produce music like this part-song by Mr Osborne Roberts, Wales need never fear to stand side by side with any other country. This part-song completely held its own against that of Sir Edward Elgar.”
Ceir tystiolaeth o sawl un o ffugenwau Thomas Osborne yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: mae’r darnau hyn o dan yr enwau ‘Peter Payne’, ‘Oscar Brett’ a ‘Rupert Aylwin’ yn dangos arddulliau cyfansoddi sydd ychydig yn wahanol i rai Osborne ei hun. Fodd bynnag, nid oes eglurhad pam y byddai o anghenraid yn defnyddio enw gwahanol. Gwyddom ei fod wedi ysgrifennu darn arall (heb ei ddarlunio yma) o dan yr enw George Wither ar gyfer pasiant pastiche wedi’i osod yn yr 17eg ganrif. Mae’n bosibl (er mai damcaniaeth yn unig yw hon) fod rhywfaint o ddylanwad wedi dod o’i ddiddordeb mawr yntau a’i wraig mewn ysbrydegaeth. Yn ôl ei frawd ar ôl marwolaeth Osborne: “Yn ei ddyddiau olaf, roedd yn ysbrydol iawn ei anian. A dweud y gwir, dywedodd rhywun wrtha i ar ôl iddo farw y bu’n byw mewn byd arall am dipyn o amser – byd yr ysbryd…”. Fyddai ddim angen fawr o ddychymyg i dybio y gallai’r meddylfryd ysbrydol yma fod wedi dylanwadu ar Osborne wrth gyfansoddi’r darnau hyn, a’i fod, ac yntau’n ddyn mor ddiymhongar, wedi ildio’r awduraeth i endid arall. Gan na chafodd y darnau eu cyhoeddi, ni fuasai unrhyw fantais o ran treth neu freindaliadau i’w chael wrth newid yr enw – llawysgrifau preifat oeddent at ddefnydd personol. Leila Megàne biau’r inc glas sydd i’w weld ar y llawysgrif – defnyddiai’r un ysgrifbin ar gyfer llawer o nodiadau ar lythyrau a thameidiau bach eraill ar ôl marwolaeth Thomas Osborne Roberts – gan ail-gadarnhau, yn ddigon rhyfedd, mai ei diweddar ŵr yn wir oedd yr artist y tu ôl i’r gerddoriaeth, er gwaetha’r holl ffugenwau.