“Mae symylrwydd ystyrlon hynod yn llawer anoddach i’w gyflawni na chymhlethdod. Yn ystod ein cyfnod ni cawsom ormod lawer o’r olaf a rhy ychydig o’r cyntaf.” Roedd y geiriau hyn o eiddo William Mathias, a ddefnyddiwyd ganddo yn y flwyddyn cyn ei farw fel rhan o ddarlith ar Mozart, i raddau helaeth yn gredo personol gyda golwg ar ei gerddoriaeth ef ei hun. Hyd yn oed yn ystod misoedd olaf ei fywyd, pryd y gallai gyfiawnhau bod yn brysur gyda darnau ar raddfa fwy, roedd trefniant o ‘Gweddi’r Arglwydd’ yn gorwedd ar ei ddesg ochr yn ochr â symffoni anorffenedig. Ac yntau’n gyfansoddwr toreithiog ac amryddawn, chwaraeodd Mathias ran flaenllaw hefyd yng nghymuned gerddorol Cymru fel Athro Adran Gerdd Prifysgol Gogledd Cymru, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru ac fel pianydd penigamp. Cyfansoddodd nifer o weithiau corawl ac yn eu plith mae llawer o anthemau byrion, carolau a darnau achlysurol sydd wedi cyfrannu at boblogrwydd ei gerddoriaeth.
Ganed Mathias yn Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin yn 1934 a bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd yn ei flaen i’r Academi Gerdd Frenhinol yng nghanol yr 1950au. Roedd rhai o gyfansoddwyr ifanc mwyaf disglair ei genhedlaeth ymhlith ei gyfoedion, unigolion fel Cornelius Cardew a Richard Rodney Bennett – dau yr oedd eu gwaith yn adlewyrchu’r chwyldro cerddorol oedd ar gerdded ar y cyfandir. Er i Mathias yn fuan iawn ddod i delerau â’r datblygiadau diweddaraf, sylweddolai bod ei wreiddiau yn ddwfn mewn iaith gerddorol, iaith oedd yn dal gafael ar ei gwytnwch dygn ei hun ond a fyddai hefyd yn cyfarch cynulleidfa eang ac amrywiol. Mae ei gerddoriaeth yn cwmpasu pob ffurf offerynnol a lleisiol, gan gynnwys opera, ac ochr yn ochr ag Alun Hoddinott ef oedd cyfansoddwr Cymreig pwysicaf ei genhedlaeth.
Bu William Mathias yn cyfansoddi ar raddfa aruthrol ers ei blentyndod ac mae cryn dipyn o’r gerddoriaeth hon bellach wedi cael derbyniad ffafriol oherwydd ei bod yn dangos ei ddawn gyfansoddi eithriadol mor glir ac yn olrhain ei lwybr tuag at aeddfedrwydd fel cyfansoddwr. Gwaith o’r fath oedd y Sonata i’r Ffidil a gyfansoddwyd yn 1952 – darn sydd, ar y cyd gyda nifer o’i gyfansoddiadau a luniwyd pan oedd yn fyfyriwr, yn enghraifft benigamp o lais cyfansoddiadol sy’n datblygu’n wastadol. Hyd yn oed bryd hynny roedd ffynonellau cyfeirio Mathias fel cyfansoddwr yn gwbl berthnasol mewn cyfnod ôl-ryfel.
Er bod y darn Ceremony After a Fire Raid wedi ei gyfansoddi flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, go brin y byddai’r cyfansoddwr yn anymwybodol o’r ffaith ei fod yn byw nid nepell o dref enedigol Dylan Thomas a bod y bardd hwnnw wedi treulio cryn dipyn o gyfnod y rhyfel yn Llundain adeg cyrchoedd y Blits. Yn yr enghraifft odidog hon o’i weithiau corawl egnïol, mae trefniant Mathias ar gyfer piano, offer taro a chorws cymysg yn ysgythru’r synwyrusrwydd barddol, a hynny mewn dull graffig iawn.
Mae dilysnodau arddull Mathias yn amlwg yn y Concerto Rhif 2 i’r Piano, darn sy’n perthyn i’r blynyddoedd yn dilyn ei gyfnod fel myfyriwr ac sy’n arddangos hyd yn oed fwy o’i hyder fel cyfansoddwr na’r concerto cyntaf yn ei ehangder cynnil, y ffynonellau cyfeirio cerddorol a’r cyfeiriadau cyfoethog. Ceir yma hefyd elfen ‘Geltaidd’ bendant yn yr adrannau llanw ôl-syllol a defodol, tra bod y gwaith wedi ei ysgrifennu’n gyfan gwbl briodweddol ar gyfer yr offeryn.
Format: Audio CD
Price: £14.99
Buy Now