Cyhoeddwyr: Hughes a’i Fab (1824-1977)

Wedi ymsefydlu yn Wrecsam ym 1824, erbyn 1865 roedd Hughes a’i Fab wedi dod yn un o brif gyhoeddwyr caneuon clasurol Cymreig – cyfoes a thraddodiadol fel ei gilydd. Cyhoeddwyd llawer o ganeuon arobryn o’r Eisteddfod Genedlaethol ganddynt gan gynnwys gwaith gan Joseph Parry, R. S. Hughes a William Davies.

Roedd y gweithiau yn y catalog erbyn diwedd y 1970au’n cynnwys llawer o ganeuon unawd (caneuon celf, ‘hen ganiadau’, trefniannau gwerin), gweithiau corawl (SATB, TTBB, SSA, emynau) yn ogystal â rhai darnau offerynnol. Y clasuron yn eu plith oedd Gwahoddiad (yn y trefniant TTBB clasurol gan John Tudor Davies); Cân yr Arad Goch (Idris Lewis); Aderyn Crist (Dilys Elwyn-Edwards); Cwm PennantGwynfydY Llyn (Meirion Williams), ynghyd â channoedd o rai eraill gan gynnwys darnau gan gyfansoddwyr pwysig fel W. S. Gwynn Williams, Thomas Osborne Roberts a Daniel Protheroe.

Yn ogystal â chyhoeddi a theiposod eu cerddoriaeth eu hunain, aethant ati hefyd i brynu’r hawlfraint i lawer o ddarnau a gyhoeddwyd gan gyhoeddwyr annibynnol y cyfnod gan ailargraffu’r rhain fel yr oeddent; hynny yw, heb gywiro na newid unrhyw wallau o ran y geiriau, tadogaeth farddol a nodiant. Mae Tŷ Cerdd bellach yn cyhoeddi argraffiadau newydd o ddarnau o gatalog Hughes a’i Fab, gan geisio gwella ambell wall a moderneiddio’r nodiant i hwyluso eu perfformio heddiw.

Hughes for DWM 2 copy

R S Hughes desaturated copy

Click image for more pages

R. S. Hughes (1855-1893)

Yn gyfansoddwr caneuon Cymreig blaenllaw iawn tua diwedd y 19eg, pianydd oedd Richard Samuel Hughes i ddechrau – enillodd y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth eisteddfodol pan nad oedd ond yn ddeg oed er gwaetha’r ffaith bod dau o’i fysedd wedi’u rhwymo â’i gilydd ar ôl cael ei frathu gan fwnci y diwrnod cynt. Cyfansoddodd ei gân gyntaf, Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi? yn ddeunaw oed yn unig, un o gyhoeddiadau cyntaf cerddorol Hughes a’i Fab. Aeth yn ei flaen o lwyddiant i lwyddiant, gyda gwobrau ar gyfer Y Dymestl yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 1880 yn ogystal ag Arafa Don a enillodd glod hefyd yn yr un digwyddiad. Gallwch glywed Elen Fwyn yn cael ei chanu yma gan David Lloyd i gyfeiliant Meirion Williams.

Disgrifir R. S. gan David Jenkins yn ei lith coffa iddo yn Y Cerddor fel hyn: “Nid oes neb wedi cyfoethogi cerddoriaeth ein gwlad yn fwy nag R. S. yn ystod y chwarter canrif ddiweddaf [sic]; yn wir, efe yw ein “Schubert Cymreig.””


E. T. Davies (1878-1969)

Cyfansoddwr a chanddo gysylltiadau cerddorol da oedd Evan Thomas Davies: ar ochr ei fam roedd yn ddisgynnydd i’r cyfansoddwr caneuon/cyfansoddwr R. S. Hughes a bu ganddo gysylltiad agos â Harry Evans, ei diwtor, drwy gydol ei oes. A dweud y gwir, ymgartrefodd yn y pen draw ym Merthyr Tudful, yn agos iawn i’r tŷ lle’r oedd ei gyn-fentor wedi byw. (Mae trefniant enwog Harry Evans o Ar Hyd y Nos ar gyfer SATB a TTBB hefyd newydd ei ailgyhoeddi gan Tŷ Cerdd).

Yn ogystal â’i waith fel cyfansoddwr, roedd galw mawr am ei ddoniau fel organydd, a lansiodd dros gant o organau newydd ar draws y DU. Ef hefyd oedd y cyfarwyddwr cerdd llawn-amser cyntaf yn yr hyn sydd bellach yn Brifysgol Bangor.

Cân a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru, Llundain ym 1909 oedd un o’i ddarnau, Ynys y Plant – dyma oedd un o ffefrynnau’r soprano, Amy Evans ac fe’i clywir ar lwyfan yr Eisteddfod hyd heddiw. Hefyd bu’n cydolygu Caneuon Cenedlaethol Cymru [The National Songs of Wales] â Sydney Northcote – cyfansoddwr, beirniad ac organydd arall uchel ei barch – ar gyfer Boosey & Hawkes ym 1959.

Ynys y Plant

Click image for more pages


Meirion Williams - Gwynfyd copy

Click image for more pages

Meirion Williams (1901-1976)

Roedd gan Meirion Williams ddawn gerddorol gref o oedran ifanc – roedd yn fedrus ar y piano a’r organ ac yn canu – gan ddenu sylw Walford Davies yn y pen draw a’i derbyniodd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth er gwaetha’r ffaith nad oedd eto wedi ennill ei dystysgrif ysgol. Mae ei gyfeiliannau meistrolgar sydd wedi’u cyfansoddi yn arbennig o dda ar gyfer y caneuon a gyfansoddwyd ganddo yn cyfleu hyder wrth gyfansoddi i’r piano – astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol gan ennill eu gwobr am berfformiad piano unawd. Bu’n cyfeilio i’r Tenor, David Lloyd ym 1948 – gellir clywed rhai o’r recordiadau hynny [gweler R. S. Hughes uchod] ar y CD gan Recordiau Sain, gan gynnwys Elen Fwyn ac Arafa Don.

Ymhlith ei ganeuon mae Gwynfyd, Y Llyn, Pan Ddaw’r Nos, ac Y Cymro. Mae’r gerddoriaeth ddalen brintiedig ar gyfer y darnau hyn gan Meirion Williams ar gael gan sawl tŷ cyhoeddi: Gwynn, Cramer, ac erbyn hyn, Tŷ Cerdd.

Mae’r caneuon hyn wedi’u recordio gan Bryn Terfel ar y CD hwn sydd ar gael i wrando arno yma ar Spotify: